Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y Cychwyn – Flog Organised Kaos

Fel rhan o gronfa Llais y Lle ar gyfer sefydliadau cymunedol, mae pob sefydliad wedi flogio eu taith drwy gydol y broses. Dyma ddechrau taith Organised Kaos.    

Lovely as a Tree

Mae hon yn ffilm am Mary, a oedd yn 104 oed ar adeg gwneud y ffilm. Nes i gyfarfod â’r ddynes ryfeddol hon pan oeddwn yn gweithio ar brosiect cARTrefu Age Cymru. Cefais fy swyno gymaint gan fywiogrwydd Mary a phan ddechreuodd adrodd cerdd gan Tennyson yn ddigymell, roeddwn i eisiau dal ysbryd unigryw Mary […]

Nelken Line Llan Ffestiniog

Mae Nelken Line yn ddarn o goreograffi gan y coreograffydd Almaenig enwog Pina Bausch, a ddysgodd y symudiadau gwreiddiol i mi yn yr 1980au, pan oeddwn i’n fyfyrwraig yn yr Almaen. Pan fu farw Pina roedd mudiad byd-eang gan y cwmni i greu Nelken Lines safle-benodol gyda gwahanol grwpiau ledled y byd. Mae ein ffilm […]

Pennod 89 – Gwilym Hiraethog

Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol […]

Glasbren

Yn plethu’r ffilm newydd Glasbren gyda phytiau o Saunders Lewis vs Andy Warhol gan Emyr Ankst, mae’r archwiliad hwn o greadigrwydd a arweinir gan ieuenctid yng Nghymru yn olrhain y llinach o’r symudiad indi iaith Gymraeg yn y 1990au i don newydd o greadigrwydd llawr gwlad sydd yn dod i’r amlwg heddiw. Wedi’i wreiddio yn […]

Ify Iwobi & Linda Hamweemba – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026

Ify Iwobi & Linda Hamweemba yn fyw o Eglwys yr Holl Saint, Mwmbwls Mae’r fersiwn arbennig hon o ‘Ngonyama’ yn cynnwys geiriau yn y Gymraeg, Saesneg a Zulu/Xhosa. Bydd Ify a Linda yn arwain Côr Cymunedol Gŵyl Tawe ar y 6ed o Fehefin am 12:45 ar lwyfan Cymru Greadigol. Cyfarwyddwr a Golygu – Daniela Morales […]

Ein Milltir Sgwâr – Llais y Lle

Sut mae iaith yn siapio ein cysylltiad â’r tirwedd? Ry’n ni falch o rannu ail ffilm yn dathlu prosiect Llais y Lle gan Joseph Conran, Ein Milltir Sgwâr. Wedi’i ysbrydoli gan hen idiomau Cymraeg a cherddi T H Parry-Williams, mae’r prosiect yn defnyddio geiriau, deunyddiau a syniadau i archwilio’r berthynas rhwng y Gymraeg, creadigrwydd a […]

Sgrech Flêr – Llais y Lle

Sut gall creadigrwydd helpu pobl i gysylltu â’r Gymraeg mewn ffyrdd newydd? Ry’n ni’n llawn cyffro i rannu ffilm i ddathlu Sgrech Flêr, prosiect Llais y Lle gan Trishna Singh a TeiFi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi cynnal gweithdai ysgrifennu dwyieithog, digwyddiadau cerddorol a chyfleoedd cydweithio creadigol ar draws Caerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar […]

Pennod 88 – ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog

Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.   Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r effaith […]

Gorwel Owen – Glas

Trac oddi ar ‘Yn iach eto teimlo tant’, albwm sy’n seiliedig ar recordiadau sither ar Bandcamp a gwasanaethau ffrydio drwy Pyst (Recordiau OFN, Mehefin 19, 2026 ). Mae’r geiriau ‘Yn iach eto teimlo tant’ yn deillio o farwnad i Gruffudd Llwyd gan y bardd Tudur Aled o’r 15g-16g (gweler Gwaith Tudur Aled, gol. T. Gwynn […]

Llais y Lle – Ffiniau

ffiniau (n) Llinell sy’n gwahanu dau neu ragor o arwynebeddau neu ardaloedd, hefyd yn ffigurol; goror, terfyn, ymyl (n) Ymyrraeth greadigol sy’n archwilio effaith ffiniau newidiol yng nghymoedd Aman/Tawe, gan defnyddio syrcas a cherddoriaeth i archwilio hunaniaeth, iaith a newid ôl-ddiwydiannol.

Pennod 87 – ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod

Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn […]

Creu’r Betgwn

Mae prosiect adfywio’r Betgwn Cymraeg wedi dechrau! Ar ôl blynyddoedd o addasu patrymau, toiles a modelau, mae Carys Hedd wedi creu patrwm gyda Catherine Davies i ddod â’r prosiect hwn i’r gymuned. Rydym yn gyffrous i rannu’r cydweithrediad gwnïo hwn gyda’r gymuned, gan flaenoriaethu’r iaith a chreadigrwydd Cymraeg. Mae pob Betgwn yn adlewyrchu’r unigolyn a’u […]

Aelod ThCIC Elle Stokes yn cyfweld â Jen Lunn

Yn ThCIC, mae rhannu gwybodaeth broffesiynol wrth wraidd popeth a wnawn. Peidiwch â cholli cyfweliad Elle gyda’r cyfarwyddwr a’r dramodydd Jen Lunn, sy’n dangos haelioni’r gweithwyr llawrydd rydym yn gweithio gyda nhw a’r awydd creadigol sydd gan genhedlaeth nesaf gwneuthurwyr theatr Cymru.

Panedeni – Atamanaa (single)

‘Atamanaa’ gan ensemble trawsddiwylliannol o’r Gogledd, Panedeni – ar Recordiau Sionci. Cefnogwyd gan Gronfa Fideos PYST x S4C Music Video Fund.   Credyd fideo: Rob Corcoran, 73 Degree Films

Cerys Hafana – Sesiynau Gŵyl Tawe 2026

Sesiynau Gŵyl Tawe 2026 gyda Cerys Hafana yn fyw o Dylan Thomas Birthplace, Swansea.   Cyfarwyddwyr – Tobias Lagos + Lewis Sharpe Fideograffeg a golygu – Tobias Lagos Sain – Graham Morse / Eleven Sound Hire

Crybaby

Mae Crybaby yn ffilm fer animeiddiedig 2D bwerus gan y cyfarwyddwr awtistig o Gymru Eleri Edwards, a gynhyrchwyd trwy gynllun Beacons Ffilm Cymru Wales gyda Biggerhouse Film. Mae’r stori’n dilyn Carys, menyw 24 oed, ond wrth iddi wacáu cartref ei phlentyndod mae’n cael ei thynnu i ofod arallfydol sydd wedi’i lethu gan focsys ac atgofion […]

Di-Cysgodion – Pole Climbing

Huw V Williams – Bass/cyfansoddi Mike De Souza – Guitar Billy Marrows – Guitar Jay Davis – Drums Recordio/mixio – Michael Collins Mastro – Kliph Scurlock Cyfarwyddo/ffilmio – Griff Lynch   Ariannwyd gan gronfa fideos cerddoriaeth PYST x S4C.

Sut i Ddarllen: Casi Wyn

Yn cadw cwmni i Francesca Sciraillo  mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn. Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn ogytsal a thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. […]

Pennod 85 – Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America

Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn i ganolbwyntio ar y cyfnodolyn Cymraeg Americanaidd cyntaf i […]

The stories of the body

Mae’r fideo ffug-goreograffig hwn yn ganlyniad gweithdy cyfranogol a gynhaliodd yr artistiaid Cai Tomos ac Itxaso Díaz yn ystod eu preswyliad mis o hyd yn Tabakalera, Donostia. Roedd y gweithdy yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r corff, ei hanesion, gofod cyhoeddus a’r syniad o gael eich arsylwi trwy olwg beiriannol.

Cai Tomos: Pethau sydd yn symud

Mae Cai yn rhannu perfformiad byr arbennig, gan ddod â’r thema colled yn ysgafn ac yn ingol i’r wyneb trwy ddawns.   Mae gwaith Cai yn cael ei ddylanwadu gan ei ddiddordeb yn yr agweddau seicolegol a seicogymdeithasol sy’n gysylltiedig â dawns a dawnsio. Mae’r perfformiad byr intimate hwn yn crynhoi ei arfer yn berffaith […]

Elin a Carys – Hela’r Dryw

Hela’r Dryw – Traddodiadol, wedi ei drefnu gan Elin a Carys Bodhrán – Freddie Willets Cello – Awen Blandford Ffidil– Gwilym Bowen Rhys Cynhyrchu fideo– James Dougan & Elin Gittins   Gyda diolch i PYST a Recordiau Sain

Y Leinin

Mae’n foment hyfryd pan gewch chi roi cynnig ar drio’ch dilledyn. Dim ond leinin y Betgwn yw hwn, onid yw’n wych pa mor unigryw ydyn nhw i gyd?

Betgwn Ellie

Dewisodd Ellie wlân Cashmere du ar y tu allan a brethyn siec a sidan oren ar y tu fewn – cyfuniad hyfryd!

Creu Betgwn yn Y Stiwdio, Hermon

Dymar sesiwn gyntaf yn Y Stiwdio hyfryd lan yn Hermon. Mae pawb wrthi yn dewis eu defnydd ac yn dorri darnau cyntaf o’r patrwm.

Sut i Ddarllen: Malachy Edwards

Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen.  Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn […]

Creu’r Betgwn 2

Gwnaeth Karen ei Betgwn o flanced wlân. Rydym yn annog cynaliadwyedd drwy ailgylchu. Rydym am ddod â’r diwydiant gwlân Cymru yn ôl yn fyw…mae cymaint yn cael ei wastraffu ar hyn o bryd.

Grief Encounters / Cyfarfyddiadau Galar

Cyfarfyddiadau Galar – Cai Tomos Galeri, Caernarfon Dydd Llun 8fed Mehefin 5-8pm Mae Cwmni Pen Productions Ltd yn falch o gynhyrchu prosiect diweddaraf Cai Tomos “Grief Encounters / Cyfarfyddiadau Galar”, digwyddiad dros dro, sydd yn dod i Galeri, Caernarfon ar ddydd Llun 8fed Mehefin 2026 rhwng 5-8pm ar ôl 3 diwrnod llwyddianus yn Oriel Davies […]

Pennod 84 – Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun

Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid […]

Sut i Ddarllen: Buddug Watcyn Roberts

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts  Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp.   Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a’r pleser o ddarllen yr un llyfr sawl tro.  Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes  Recordio sain: Aled Wyn Hughes  Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.    Rhestr Ddarllen  Morgan a Magi Ann – Mary Vaughan Jones  Huw Bob Lliw – Marian Jones  Neli’r Pysgodyn Jeli – Marian Jones  Marc y Siarc – Marian Jones  Ffawd, Cywilydd a Celwyddau – Llwyd Owen  mor hapus – Gwenllian Ellis  Lladd Arth – Kayley Roberts  Cwlwm – Ffion […]

Pennod 83 – Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf

Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth […]