Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gorwel Owen – Glas

Cerddoriaeth

Trac oddi ar ‘Yn iach eto teimlo tant’, albwm sy’n seiliedig ar recordiadau sither ar Bandcamp a gwasanaethau ffrydio drwy Pyst (Recordiau OFN, Mehefin 19, 2026 ). Mae’r geiriau ‘Yn iach eto teimlo tant’ yn deillio o farwnad i Gruffudd Llwyd gan y bardd Tudur Aled o’r 15g-16g (gweler Gwaith Tudur Aled, gol. T. Gwynn Jones 1926). Yn y cyfnod yna, defnyddir ‘teimlo’ i gyfeirio at y weithred o gynhyrchu sŵn ar offeryn. Mae’r teitl ‘Glas’ yn cyfeirio at liw rhai o’r gwrthrychau a ddefnyddiwyd i baratoi a theimlo’r sither.

 

Albwm: ‘Yn iach eto teimlo tant’. OFN021D. 19/6/2026

Deunyddiau crai (yn fras):
Special Columbia Zither 94%
Synths modiwlar 3.7%
Recordiadau maes 2.1%
Ymyrraeth sain anhysbys 0.2%

Recordiwyd rhan fwyaf o’r albwm ym mis Mawrth 2026 yn Llanfaelog, Ynys Môn.

RHANNWCH