Ffurfiwyd y Panel Cynghori Affrica Is-Sahara yn 2009 pan ddaeth nifer o grwpiau o’r gymuned Affricanaidd ar wasgar yng Nghymru at ei gilydd i ystyried sut y gallant ymestyn eu syniadau cyffredin am ddatblygiadau lleol a rhyngwladol. Nid ydym yn sefydliad sydd yn cynrychioli cymunedau Affricanaidd ar wasgar yng Nghymru, ond yn hytrach rydym yn ceisio defnyddio sgiliau, gallu a’r wybodaeth o’r gymuned er budd pawb. Rydym eisiau cynnig ein profiadau bywyd er mwyn addysgu’r sector elusennol yn ogystal รข hybu datblygiadau i’n cymuned. Rydym yn gwneud hyn drwy weithredu mentrau datblygu yng Nghymru ac ar draws Affrica Is-Sahara.