Datgloi’r naratif trefedigaethol tu ôl i bortread o Thomas Picton, llywodraethwr Trinidad 1798-1803, gyda Gesiye a Mary-Anne o Laku Neg Collective sydd yn ymuno yn rhithiol o Drinidad.
Mae Reframing Picton yn ganlyniad o bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Arweinyddiaeth Ieuenctid SSAP.
Mae Gesiye yn artist amlddisgyblaethol sydd yn byw ac yn gweithio yn Nhrinidad a Tobago. Mae hi’n creu ffotograffau, ffilmiau, tatŵau, dyluniadau a pherfformiadau sydd yn archwilio ymgorfforiad ac adrodd straeon fel ffurfiau o ryddhad.
Mae Loku Neg yn gwmni sydd yn cael ei arwain gan artistiaid sydd yn hyrwyddo mynegiant o wybodaeth am y diaspora Affricanaidd. Mae’r gydweithfa yn cael ei gynrychioli gan artistiaid o Drinidad sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.