Amdanom Ni
Am yw’r cyntaf o’i fath – platfform digidol ar gyfer darganfod a dathlu celfyddydau a diwylliant Cymru. Wedi’i greu gyda’r egwyddor o fod yn agored a chroesawgar i bawb, dechreuodd fel cartref i 75 o sefydliadau creadigol, sydd wedi tyfu i 480 erbyn hyn. Mae Am yn bodoli i ddyrchafu lleisiau creadigol o bob cefndir ac iaith, a hynny trwy gynorthwyo mwy o bobl i ymgysylltu â chyfoeth ac amrywiaeth diwylliant Cymru – boed hwy’n artistiaid, yn gynulleidfaoedd, neu’r rheini sydd ychydig yn chwilfrydig.
Ein stori
Wedi’i lansio ym Mawrth 2020, mae Am yn cael ei redeg gan PYST Cyf a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru. Am oedd ac yw’r unig blatfform digidol yn benodol ar gyfer celfyddydau a diwylliant Cymru.
Arweiniodd flwyddyn o ymchwil at lansio gwefan oedd yn wreiddiol yn gartref i 75 sefydliad creadigol, yn cynrychioli ystod eang o wahanol fathau o gelf. Mae Am wedi tyfu yn gyflym dros bum mlynedd, ac erbyn 2025 mae’n gartref i 480 sefydliad diwylliannol a dros 10,000 darn o gynnwys.
Mae Am wedi dysgu, addasu ac ymateb i bopeth o Covid i doriadau ariannol i’r sector celfyddydol, ond mae’n parhau’n ymrwymedig i’w ethos gwreiddiol o fod yn ofod democrataidd i rannu a hyrwyddo gweithgarwch diwylliannol, heb unrhyw elfen o berchnogi nag ymelwa.
Ein Gweledigaeth
Gweledigaeth Am yw galluogi mwy o bobl nag erioed i ymwneud â’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn anelu i greu isadeilwaith ar gyfer Cymru gynhwysol newydd, lle mae’r celfyddydau yn sbardun i ffyniant cymdeithasol, ieithyddol ac economaidd y dyfodol.
Ein Hamcanion
- Cynnig mynediad agored a hygyrch i’r celfyddydau i’r rhai sy’n creu a’r defnyddwyr fel ei gilydd, a hynny ar lefel gymunedol a chenedlaethol.
- Creu cyfleoedd cynaliadwy, cynhwysol i rymuso pobl greadigol yng Nghymru.
- Cydweithio i greu rhwydweithiau cefnogol newydd.
- Datblygu cynulleidfaoedd newydd er mwyn ehangu ymgysylltiad â’r celfyddydau yng Nghymru.