Cyfle â Thâl:
Kumbukumbu – Ein Hatgofion
Mae ‘Panel Cynghori Is-Sahara’ (SSAP) yn gwahodd pobl greadigol a chynghreiriaid Du a Brown i greu gwaith newydd sy’n ymateb i Hanes Pobl Ddu yng Nghymru.
Bydd Kumbukumbu, sy’n golygu ‘Atgofion‘ yn Kiswahili, yn creu gofod lle gellir casglu, ymchwilio, rhannu a chadw Hanesion Pobl Du ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn chwilio am artistiaid o Gymru neu sy’n gweithio yng Nghymru, sydd â diddordeb mewn Hanes Pobl Ddu, ac sydd eisiau gweithio gyda ni i wneud i Hanes Pobl Ddu Cymru i gael ei weld, ei glywed a’i ddathlu mewn ffordd gyfoes a dychmygus.
Beth sydd ar gael?
-
Ffi o £1500 ar gyfer pob artist a ddewisir.
- Byddwch yn rhan o garfan amrywiol o artistiaid a fydd yn adrodd straeon diddorol, newydd a chreadigol mewn ffyrdd newydd.
- Cyfle i bobl greadigol ddatblygu eu hunain fel cyfathrebwyr treftadaeth effeithiol dros Affrica-Cymru.
- Lle i bobl greadigol gymryd camau cadarnhaol, ymarferol ar ddad-drefedigaethu hanes Cymru-Affrica.
- Teithiau ar draws Cymru, yn dylunio a chyflwyno gweithdai adrodd straeon cymunedol, yn ogystal â gweithio gyda sefydliadau treftadaeth blaenllaw Cymru.
- Hyfforddiant am ddim ar offer dysgu creadigol, gan gynnwys cyflwyno deunyddiau dysgu i gefnogi addysgu Hanes Pobl Ddu Cymru, yn unol â’r Cwricwlwm i Gymru.
- Cyfle i greu ac arddangos gweithiau celf newydd ac ystyrlon sy’n dathlu ein hanes a rennir.
Gofynion Mynediad
-
Rhaid i’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Nghymru.
- Os fyddwch chi’n cael eich derbyn, rhaid i’ch gwaith yn ystod y misoedd nesaf ymateb i brosiect Kumbukumbu a’i ymchwil; felly dylech fod â diddordeb mewn datgelu ac ailadrodd Hanes Pobl Ddu a’i gysylltiad â Chymru. Byddwch yn gweithio’n agos gydag ymchwilydd y prosiect i ddod o hyd i’r stori iawn y byddwch eisiau ei harchwilio.
- Rydym yn derbyn artistiaid sy’n gweithio trwy gyfrwng unrhyw un o’r cyfryngau celfyddydau gweledol, yn ogystal ag artistiaid sy’n gweithio ym maes perfformio, dawns a cherddoriaeth.
Sut i wneud cais:
-
Bywgraffiad, byr amdanoch chi a’ch cefndir (uchafswm o 200 gair).
- Testun, sy’n rhoi enghraifft o Hanes Pobl Ddu Cymru sy’n eich ysbrydoli chi ac yr hoffech chi ei archwilio ymhellach (uchafswm o 500 gair). Gall hyn fod yn ddigwyddiad hanesyddol neu’n ffigwr pwysig, yn lleoliad, neu’n elfen dreftadaeth anniriaethol fel defod a thraddodiad, neu hyd yn oed profiad rydych chi wedi’i gael.
- Lluniau neu recordiadau cefnogol o’ch gwaith, hyd at 8 llun neu uchafswm o 5 munud o fideo, yn dangos eich ymarfer artistig.
- Ochr yn ochr ag ysgrifennu ceisiadau, rydym yn derbyn ceisiadau drwy recordiad fideo neu sain o hyd at 8 munud
- Dylech anfon y ceisiadau i robert.oros@ssap.org.uk a innocent.chimba@ssap.org.uk, a rhoi ‘Artist Call Out Application’ yn y llinell pwnc.
- Dylech gynnwys eich gwybodaeth gyswllt: enw, rhagenwau, oedran, eich cyfryngau cymdeithasol/gwefan a ble rydych chi wedi’ch lleoli, yn ogystal ag unrhyw anghenion hygyrchedd. Os ydych chi’n gwneud cais fel grŵp, dylech gynnwys yr wybodaeth uchod am bob aelod sy’n cymryd rhan.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Dyddiad cau: 25 Chwefror 2024