Ydych chi’n angerddol am dreftadaeth, yn enwedig treftadaeth y diaspora Gymraeg Affricanaidd? Dyma’r rôl i chdi. Rydym yn recriwtio ar gyfer y prosiect KumbuKumbu (‘atgofion’). Bydd y cydlynydd yn gweithio hefo carfan o bobl (artistiaid, cerddorion, beirdd a mwy) o’r gymuned bydd yn dod o hyd i ffyrdd newydd o ail-ddweud a rhannu hanesion Du Cymru, wedi ysbrydoli gan draddodiadau Affricanaidd a Diaspora o gofio a rhannu treftadaeth. Bydd y swydd yn gofyn am arwain ar recriwtio’r garfan; Gweithio gyda phartneriaid prosiect KumbuKumbu i fapio ac ymchwilio treftadaeth, atgofion a diwylliant Gymraeg Affricanaidd ledled Cymru; Cydlynu gweithdai cymunedol; Dogfennu a chasglu gwaith yn ddigidol; Cysylltu gydag ysgolion a sefydliadau treftadaeth i rannu adnoddau. Mae’r rôl hon yn cynnwys teithio o amgylch Cymru. Bydd angen i’r sawl sy’n cael y swydd gynnal perthnasau gyda grwpiau perthnasol yng Nghymru er mwyn datblygu agwedd ymgysylltu cymunedol y rôl.
Dyddiad Cau: Mawrth 3ydd 2024.