Cartref digidol diwylliant Cymru.

Hynafiaid Da: Panel Artistiaid ac Arddangosfa

Painting by Jean Samuel

Dyddiad: Dydd Gwener, Mehefin 13

Amser: 2-5yh

Lle: Grange Pavilion

 

Cofrestrwch am ddim yma. Diodydd am ddim.

 

Dewch i ymuno gyda SSAP wrth i ni ddathlu ein Prosiect Hynafiaid Da, clwb artistiaid dan arweiniad pobl Dduon, a gofod ar gyfer gweithredu dros actifiaeth greadigol, gydweithredol, sydd wedi’i dad-drefedigaethu. Mae’r prosiect yn archwilio newid hinsawdd a natur trwy lens ryngwladol, ac yn canolbwyntio ar Gymru ac Affrica.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o’r Ymgyrch Hinsawdd Fawr Werdd, sy’n digwydd rhwng 7-15 Mehefin.

Dewch i gyfarfod â’r artistiaid sydd wedi creu gwaith unigryw, pwysig ar yr argyfwng hinsawdd, i glywed eu straeon ac i werthfawrogi’r gwaith celf sydd yn cael ei ddangos. Gallwch fwynhau lluniaeth ac yna, cymryd rhan yn ein gweithdai creadigol ble gallwch greu gwaith celf sy’n ymwybodol o’r hinsawdd dan arweiniad ein hartistiaid.

Beth ydy’r Clwb Hynafiaid Da?

Mae’r Clwb Hynafiaid Da wedi dod ag artistiaid o Affrica, Cymru a’r gymuned Ddiaspora at ei gilydd, sydd wedi dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd ynghylch yr argyfwng hinsawdd a natur, ac sydd wedi creu gweithiau celf newydd a chyffrous sy’n galw am weithredu brys.

Bydd trafodaeth banel gyda Paskaline Jabet, Jean Samuel, Um a Radha, sydd i gyd wedi creu gweithiau celf ar gyfer y prosiect hwn.

RHANNWCH