Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 87 – ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod

Llenyddiaeth

Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn.

Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn archhwilio’r modd yr ‘ymrithiodd arwres newydd’ ‘o burdan enllib y Sais’. Awn ati i ystyried y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenyw a gyhoeddwyd, sef Telyn Egryn gan Elin Evans neu ‘Elen Egryn’. Edrychwn hefyd ar y rhagymadrodd gan Gwilym Hiraethog, testun sydd, ymysg pethau eraill, yn cymharu (diffyg) llenyddiaeth y Gymraes a chynnyrch llenyddol y Saesnes. Cawn gyfle wedyn i grybwyll y cyfnodolyn Y Gymraes: cylchgrawn i ferched Cymru.

RHANNWCH