Mae Nelken Line yn ddarn o goreograffi gan y coreograffydd Almaenig enwog Pina Bausch, a ddysgodd y symudiadau gwreiddiol i mi yn yr 1980au, pan oeddwn i’n fyfyrwraig yn yr Almaen. Pan fu farw Pina roedd mudiad byd-eang gan y cwmni i greu Nelken Lines safle-benodol gyda gwahanol grwpiau ledled y byd. Mae ein ffilm ni wedi derbyn ymateb cynnes, gan fod pobl yn hoffi yr awyrgylch atmosfferig yn yr eglwys yn Llan Ffestiniog.