Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos.
Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog yw’r mwyaf diddorol o safbwynt llenyddoldeb, uchelgais a chreadigrwydd. Yn ogystal â chyfieithu ffuglen Saesneg i’r Gymraeg, aeth y llenor o Lansannan ati i lunio cyd-destun ffuglennol Cymreig a Chymraeg gwreiddiol er mwyn cyflwyno’r stori Americanaidd i ddarllenwyr yng Nghymru. Dyma ffuglen am ffuglen – metaffuglen o’r iawn ryw – sy’n cynnwys sylwebau miniong am y berthnynas anodd rhwng rhai darllenwyr Cymraeg a ffurf y nofel. Rhyfeddwn wrth ystyried y modd y bu i lawer o ymneilltuwyr Cymreig wrthwynebu darllen nofelau a nodi bod Aelwyd F’Ewythr Robert felly wedi helpu naddu troedle ar gyfer y ffurf lenyddol honno yng Nghymru. Ac am y tro cyntaf yn hanes y podlediad hwn, ceisiwn drafod llun yn fanwl!
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading:
- Gellir darllen Aelwyd F’Ewythr Robert ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Gareth Evans-Jones, Mae’r Beibl o’n tu: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (2022).
- Jerry Hunter, ‘The Pilgrim and the Hearth in the Welsh Reception of Bunyan’s The Pilgrim’s Progess’, yn Angelica Duran a Katherine Callowy (goln.), Global Bunyan and Visual Art (2025).
- Jerry Hunter, I Ddeffro Ysbryd y Wlad: Robert Everett a’r Ymgyrch yn Erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (2007).