Mae’r fideo ffug-goreograffig hwn yn ganlyniad gweithdy cyfranogol a gynhaliodd yr artistiaid Cai Tomos ac Itxaso Díaz yn ystod eu preswyliad mis o hyd yn Tabakalera, Donostia.
Roedd y gweithdy yn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r corff, ei hanesion, gofod cyhoeddus a’r syniad o gael eich arsylwi trwy olwg beiriannol.