Yn plethu’r ffilm newydd Glasbren gyda phytiau o Saunders Lewis vs Andy Warhol gan Emyr Ankst, mae’r archwiliad hwn o greadigrwydd a arweinir gan ieuenctid yng Nghymru yn olrhain y llinach o’r symudiad indi iaith Gymraeg yn y 1990au i don newydd o greadigrwydd llawr gwlad sydd yn dod i’r amlwg heddiw. Wedi’i wreiddio yn lleisiau’r Sîn Roc Gymraeg cyfoes, byddwn yn dathlu diwylliannau amrwd, gwreiddiol sydd yn cael eu creu tu hwnt i hybiau prif ffrwd a strwythurau traddodiadol.