Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r effaith andwyol a gafodd ‘y Llyfrau Gleision’ ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Dyfynnwn Hywel Teifi Edwards a ddywedodd mai ‘gwas ei gymdeithas’ oedd Ceiriog, ac yntau’n ‘bodloni anghenion ei oes’ yn hytrach na’u herio. Ond rydym ni hefyd yn pwysleisio dawn bardd a lwyddodd i gyfansoddi penillion a fyddai’n ennill statws oesol caneuon gweriniol.
Mae’r bennod hon hefyd yn gyfle i ystyried cydberthynas barddoniaeth a cherddoriaeh yng Nghymru yn ystod Oes Fictoria. Ac mae’n dda gorffen trwy ddarllen englyn gan Ceiriog sy’n cyflwyno golwg tra gwahanol ar ei waith!