Yn cadw cwmni i Francesca Sciraillo mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn.
Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn ogytsal a thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. Rhyddhawyd ei halbym newydd Plentyn yr Haul ddiwedd Mawrth eleni.
Casi hefyd yw Cyfarwyddwr Creadigol cylchgrawn Codi Pais, cylchgrawn annibynol i bawb gan ferched Cymru.
Yn y bennod mae Casi’n trafod gwerth darllen barddoniaeth, ei hoff siopau llyfrau a vibes faniau llyfrgell!
Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes
Recordio sain: Aled Wyn Hughes
Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd
Dyma’r llyfrau sy’n cael eu trafod yn y bennod hon.
- Llyfr Mawr y Plant – Jennie Thomas, J.O. Williams
- Rala Rwdins – Angharad Tomos
- Heddwch o’r Diwedd – Jill Murphy, addas. Roger Boore
- Beth Nesaf? – Jill Murphy, addas. Roger Boore
- Y Llygod a’r Lleuad – Joyce Dunbar, addas. Myrddin ap Dafydd
- The Lion, the Witch and the Wardrobe – C.S. Lewis
- A Series of Unfortunate Events – Lemony Snicket
- Harri Potter a Maen yr Athronydd – J. K. Rowling, addas. Emily Huws
- Caer y Rhew – Robert Swindells, addas Gruff Roberts
- Mrs Mochyn a’r Sos Coch – Mary Rayner
- Elfed yr Eliffant – David McKee
- ‘Dyn Ni yn Mynd i Hela Arth – Michael Rosen, addas. Gwynne Williams
- Teulu Bach Nant Oer – Moelona
- Y Tylwyth Teg
- mae – Mererid Hopwood
- Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen
- O Ffrwyth y Gangen Hon – Gol. Nia Morais
- Trochi – Carwyn Eckley
- I Know Why The Caged Bird Sings – Maya Angelou
- The Doors of Perception – Aldous Huxley
- Codi Pais
- Folding Rock
- Hanes Byw
- Atgofion drwy Ganeuon: Gweld Sêr – Siân James
- Y Tywysog Bach – Antoine De Saint-Exupéry
- Cariad Yw – Casi Wyn
- Cerdded Lerpwl y Cymry – Gari Wyn
- Bitter Honey – Caryl Lewis
- Service 95
- Send Books
- Songs of Innocence and of Experience – William Blake
- Mynd – Marged Tudur
- Nature and Selected Essays – Ralph Waldo Emerson
Y llyfrau hyn a llawer mwy ar gael o’ch siop lyfrau leol.