Mae hon yn ffilm am Mary, a oedd yn 104 oed ar adeg gwneud y ffilm. Nes i gyfarfod â’r ddynes ryfeddol hon pan oeddwn yn gweithio ar brosiect cARTrefu Age Cymru. Cefais fy swyno gymaint gan fywiogrwydd Mary a phan ddechreuodd adrodd cerdd gan Tennyson yn ddigymell, roeddwn i eisiau dal ysbryd unigryw Mary a’i chariad at gelf mewn rhyw ffordd. Y canlyniad yw’r ffilm yma.