Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 85 – Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America

Llenyddiaeth

Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio.
Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn i ganolbwyntio ar y cyfnodolyn Cymraeg Americanaidd cyntaf i lwyddo, Y Cyfaill o’r Hen Wlad, gan edrych ar gynnwys rhai o rifynnau cynnar y cylchgrawn diddorol hwnnw. Cawn yn un o’r testunau hyn awgrym diddorol ynghylch hanfod yr iaith Gymraeg fel cyfrwng sy’n trosglwyddo diwylliant, a gwelwn fod un arall yn enghraifft Americanaidd ryfeddol o hen draddodiad canoloesol Cymraeg. Ac mae Richard Jones yn gorfodi Jerry Hunter i egluro’n fanylach hanes ei ymwneud â’r union faes academaidd hwn.

 

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru
Cerddoriaeth: ‘Might Have Done’ gan The Molenes

RHANNWCH