Cartref digidol diwylliant Cymru.

Sgrech Flêr – Llais y Lle

Sut gall creadigrwydd helpu pobl i gysylltu â’r Gymraeg mewn ffyrdd newydd?

Ry’n ni’n llawn cyffro i rannu ffilm i ddathlu Sgrech Flêr, prosiect Llais y Lle gan Trishna Singh a Ladies of Rage.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm wedi cynnal gweithdai ysgrifennu dwyieithog, digwyddiadau cerddorol a chyfleoedd cydweithio creadigol ar draws Caerdydd, Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerffili. Yn y sesiynau, defnyddir cerddoriaeth fel ffordd o adeiladu hyder, rhwydweithio ac ymgysylltu â’r Gymraeg.

Wedi’i wreiddio ym mhrofiad Ladies of Rage o ysgrifennu caneuon yn y Gymraeg er mwyn dysgu’r iaith, mae’r prosiect wedi creu gofodau creadigol croesawgar lle gall dysgu iaith a hunan-fynegiant ddatblygu ochr yn ochr.

Mae ein cronfa Llais y Lle yn cefnogi unigolion creadigol a sefydliadau i gydweithio â chymunedau er mwyn hybu defnydd, hyder a pherchnogaeth o’r Gymraeg drwy greadigrwydd a diwylliant.

Cyflwynir y ffilm yma mewn partneriaeth ag Am. 

RHANNWCH