Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ein Milltir Sgwâr – Llais y Lle

Sut mae iaith yn siapio ein cysylltiad â’r tirwedd?

Ry’n ni falch o rannu ail ffilm yn dathlu prosiect Llais y Lle gan Joseph Conran, Ein Milltir Sgwâr.

Wedi’i ysbrydoli gan hen idiomau Cymraeg a cherddi T H Parry-Williams, mae’r prosiect yn defnyddio geiriau, deunyddiau a syniadau i archwilio’r berthynas rhwng y Gymraeg, creadigrwydd a thirwedd Cymru.

Trwy broses greadigol gydweithredol, mae’r prosiect yn creu gofod i artistiaid ddefnyddio’r Gymraeg, rhannu syniadau ac archwilio’r ymdeimlad o berthyn drwy ymarfer creadigol.

Mae ein cronfa Llais y Lle yn cefnogi unigolion creadigol a sefydliadau i gydweithio â chymunedau er mwyn datblygu defnydd, hyder a pherchnogaeth o’r Gymraeg drwy greadigrwydd a diwylliant.

Cyflwynir y ffilm mewn partneriaeth ag Am. 

 

Ffilmiwyd gan Betsan Hughes

RHANNWCH