Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a gyhoeddwyd y 1847. Teitl Saesneg cywir yr adroddiadau hyn yw The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. Dyma’r cyfrolau drwgenwog sy’n pardduo iaith, moesau a diwylliant Cymru.
Canolbwyntiwn wedyn ar waith y bardd o gyffiniau Llandderfel Robert Jones neu ‘R. J. Derfel’, a nodi’i fod yn sosialydd Cymraeg arloesol. Ef a fathodd yr ymadrodd Brad y Llyfrau Gleision, a hynny yn y gwaith llenyddol mentrus a gyhoeddodd yn 1854 sy’n dwyn y teitl hwnnw. Mae’n bryddest fydryddol hir – y gellir ei glaw’n ddrama fydryddol hefyd – sy’n dangos Beelzebub a thrigolion eraill Uffern yn cynllwynio i danseilio’r Cymry. Dyma waith swmpus hwyliog sy’n archwilio sarhâd y Llyfrau Gleision mewn modd syfrdanol o greadigol.