Cartref digidol diwylliant Cymru.

Creu’r Betgwn

Mae prosiect adfywio’r Betgwn Cymraeg wedi dechrau!

Ar ôl blynyddoedd o addasu patrymau, toiles a modelau, mae Carys Hedd wedi creu patrwm gyda Catherine Davies i ddod â’r prosiect hwn i’r gymuned. Rydym yn gyffrous i rannu’r cydweithrediad gwnïo hwn gyda’r gymuned, gan flaenoriaethu’r iaith a chreadigrwydd Cymraeg.

Mae pob Betgwn yn adlewyrchu’r unigolyn a’u gwnaeth… ac rydym yn croesawu diddordeb gan eraill i wneud eu rhai eu hunain. Rydym wrthi’n edrych ar gyllid fel y gallwn barhau i gynnig hwn fel gweithdy creu am ddim.

RHANNWCH