Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 70 – ‘Dynion dawnus yn dilyn chw’ryddiaeth’: Yr Anterliwt (rhan 2)

Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth.   Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu perfformiadau mewn nifer […]

Pennod 69 – Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1)

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda chyffro. Awn ati i ddiffinio’r anterliwt […]

Cyhoeddi Cymrodoriaeth Cynefin

Mae tîm Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yn hynod falch o gyhoeddi Cymrodoriaeth newydd arloesol i newyddiadurwyr yng Nghymru neu o Gymru, mewn partneriaeth â Sefydliad Reuters ar gyfer Astudio Newyddiaduraeth. Gan adeiladu ar genhadaeth Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru i yrru newid systemig yng Nghymru a thu hwnt, bydd gan Gymrodoriaeth Cynefin, a ariennir yn llawn, ffocws penodol ar […]

Gwylio tranc y Blaid Lafur Gymreig

Oni bai fod newid buan ac arwyddocaol yn y rhagolygon barn, mae pob argoel y bydd y Blaid Lafur Gymreig yn wynebu chwalfa etholiadol ym Mai 2026. Ac nid oes ganddi chwaith na’r bobl na’r syniadau i ymgodymu â’r fath sefyllfa ac i ailadeiladu ei grym gwleidyddol. Dwn i ddim beth mewn gwirionedd yr oeddwn […]

A heuo faes, gwyn ei fyd?

Ar Newyddion S4C ar 12 Awst bu adroddiad o bentref Palestinaidd al-Mughayyir ar y Lan Orllewinol. Soniwyd ynddo am ymosodiadau ar y pentrefwyr gan ymsefydlwyr Israelaidd. Ar newyddion Saesneg y BBC ar 18 Awst gwelwyd lluniau dramatig o ymosodiad ar fferm gerllaw Turmus Aya gan griw o ddynion mewn masgiau. Unwaith eto, ymsefydlwyr Israelaidd oedd […]

DISTANCES

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg     Available for purchase on Etsy or at https://imogendavies.my.canva.site/

Pennod 68 – Baledi’r Ddeunawfed Ganrif

Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ar ôl ymgodymu ychydig â’r diffiniad, awgrymwn mai’r cysylltiad rhwng y math hwn […]

Maes D – Eisteddfod Wrecsam 2025

Sesiwn arbennig yn fyw o Maes D ar faes Eisteddfod Wrecsam 2025. Trafod llyfrau i ddysgwyr, sgwennu ar gyfer dysgwyr a phob dim dan haul.

Pennod 67 – Ochr Arall y Geiniog

Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio rhai agweddau traddodiadol ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru i’r […]

Gŵyl Arall

Pennod yn fyw o Gŵyl Arall Caernarfon. Ymddiheuriadau am ansawdd y sain yn y bennod hon.

Camau gwag Starmer – gwersi i Rhun

Ar ôl cipio mwyafrif anferthol yn yr Etholiad Cyffredinol flwyddyn yn ôl, mae llywodraeth Keir Starmer mewn dyfroedd dyfnion. A da o beth, ym marn ein colofnydd, fyddai i Rhun ap Iorwerth a Phlaid Cymru graffu ar y camgymeriadau a barodd i hyn ddigwydd. Yr wyf yn ysgrifennu hyn o eiriau ychydig ddyddiau’n unig cyn […]

Stryd Gerallt a’r Cae Ras

Sut brofiad oedd ac yw byw yn ardal Wrecsam? Gofynnodd BARN i dri amrywiol eu cefndi-roedd geisio diffinio beth mae Wrecsam yn ei olygu iddynt hwy. Y gymuned o ’nghwmpas i ydi’r peth pwysicaf am Wrecsam i fi. Fe wnes i golli dad ar ddi-wedd cyfnod Covid, ac mae’r ffordd wnaeth y gymuned ddod ynghyd […]

Pennod 66 – Bardd Diofal?: Williams Pantycelyn (rhan 3)

Rydym ni’n gorffen trafod yr emynydd mawr yn y bennod hon trwy ofyn cwestiwn a fydd o bosib yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o’n dilynwyr, sef a oedd Pantycelyn yn fardd diofal? Dyfynnwn nifer o ysgolheigion o’r ugeinfed ganrif sy’n awgrymu hyn, gan gynnwys Saunders Lewis a ddywedodd nad oedd William Williams yn parchu geiriau […]

Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025

Bydd y ffrwd ar gael i’w wylio yma o 7.00yh ymlaen Bydd Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025 yn cael ei ffrydio o Theatr y Sherman, Caerdydd yma ar Am! Ymunwch â ni ar Orffennaf 17eg am noson wefreiddiol i ddathlu llwyddiannau llenorion talentog Cymreig.

Amy Grandvoinet

Purple sheet music with a screenshot overlayed with black text on a white background reading ‘Bella Ciao and Saint Francis?’

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Ein Hartist y Mis yw Amy Grandvoinet! Ar hyn o bryd mae Amy yn byw yn Aberystwyth ac yn ceisio byw ‘bywyd go iawn’. Mae hi’n gwneud ei ymchwil doethuriaeth yn y maes seicoddaearyddiaeth lenyddol a bydd hi’n […]

Pennod 65 – ‘Pererin Wyf’: Williams Pantycelyn (rhan 2)

Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y bu iddo […]

Chwilio am Swydd gydag Awtistiaeth: Y Rhwystrau a Wynebwn

Yn gynharach heddiw, gwiriais fy ffôn a gwelais alwad a gollwyd o gwpl o oriau ynghynt. Ar ôl chwilio am y rhif ar Google, fel rwy’n ei wneud fel arfer, cefais fy synnu o’r ochr orau i ddarganfod nad sbam oedd e ond o’r sefydliad yr oeddwn wedi cael fy nghyfweld ag ef ddydd Gwener […]

Pennod 64 – ‘Williams biau’r Emyn’

Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg.   Dyma […]

Partneriaeth QueerAF: Cyfleoedd i awduron LHDTQIA+ o Gymru sydd ar ddechrau eu gyrfa

Yellow image with QUEER AF and Inclusive Journalism logos

Yn dilyn llwyddiant ein cyfres ddiwethaf o gomisiynau, rydym yn partneru â Queer AF ar gyfer carfan arall o fentora. Byddant yn cynnal cyfres bwrpasol o ddarnau meddwl fel rhan o gynllun ysgrifennu nodedig QueerAF, Queer Gaze. A gallech chi fod yn un o’r awduron llwyddiannus.   Y cyfle Bydd tri newyddiadurwr LHDTCIA+ o Gymru, […]

Issue 002: Speak to Me

Front cover of Folding Rock Issue 002: Speak to Me

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.       Dysgwch fwy am gylchgrawn Folding Rock ar eu gwefan foldingrock.com. .

Awduron di-dâl

Mae Siân mewn penbleth ac mae’n gofyn am gymorth gan y pedwar… sydd yn fawr o help! Pryd mae’n iawn i ofyn am daliad a pham fod gymaint o ddigwyddiadau yn disgwyl i awduron cynnal noson yn ddi-dâl? Iaith ddiniwed Bethan, ymwelydd o ben draw’r byd, a llwyth o lyfrau. Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau […]

Pennod 63 – Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd

Jerry Hunter and Richard Wyn Jones recording a podcast

Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, […]

Yr arolwg barn blwyddyn-i-fynd

Wrth ymateb i’r pôl piniwn diweddaraf am ganlyniadau etholiad nesaf y Senedd, mae ein colofnydd yn mentro rhagweld newidiadau dramatig yn y byd gwleidyddol Cymreig. Ffawd y sawl ohonom sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth etholiadol Cymru yw ein bod wedi gorfod arfer â’r ffaith mai ychydig iawn sy’n newid. Yn hytrach na chael trafod y cyffro […]

Evrah Rose

Front cover of Evrah Rose's 'LINK IN BIO'

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Ein Hartist y Mis yw Evrah Rose! Y bardd, awdur a cherddor rap, enillodd Evrah Rose boblogrwydd cenedlaethol trwy ei waith sy’n taro’n galed a’i hegni di-ofn. Darllenwch y nodwedd isod i ddysgu mwy am waith Evrah, yr […]

Folding Rock

Folding Rock logo

Mae Folding Rock yn gylchgrawn newydd sbon danlli. Cafodd ei sefydlu yn 2024 gan ddau olygydd oedd yn benderfynol i helpu rhoi Cymru ac ysgrifennu o Gymru ar fap y Deyrnas Unedig – a thu hwnt. Mae’n cyhoeddi’r rhyddiaith greadigol newydd orau: ffuglen, ffeithiol a phopeth yn y canol. Mae’r cylchgrawn yn arddangos gwaith cyffrous […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Branwen ferch Llŷr

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Llyfr Gwyn Rhydderch

Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich […]

Issue 001 Editorial

Front cover of Folding Rock issue 1

By Robert Harries and Kathryn Tann   Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.                   Continue reading here

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Mis Mai a Mis Tachwedd

‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Yr Wylan

Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. […]

Gwaith Argoed Llwyfain

Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd […]

Marwnad Owain ab Urien

Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau […]

Canu Aneirin, Awdl 1

Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, […]

Llyfr Aneirin

Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad […]

Canu Aneirin, Awdl 24

Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Aneirin gan Iwan Llwyd

Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn […]