Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich a oedd yn cydweithio ym mynachdy Ystrad Fflur yng Ngheredigion, a hynny, mae’n debyg, ar gyfer dyn o’r enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd. Pwysleisiwn fod creu llawysgrif yn broses lafurus iawn a gymerai lawer o amser ac adnoddau a bod llawysgrif yn beth hynod werthfawr o’r herwydd. Roedd gwneuthurwyr llawysgrifau canoloesol felly’n dewis cynnwys eu ‘llyfrau’ yn ofalus iawn. Nodwn fod ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ymysg y ‘chwedlau brodorol’ a geir yn Llyfr Gwyn Rhydderch, gan ystyried hefyd y ffaith bod rhychwant eang o wahanol destunau wedi’u cynnwys yn y llawysgrif hefyd.