Cartref digidol diwylliant Cymru.

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Yr Wylan

Llenyddiaeth

Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. Gwerthfawrogwn ddisgrifiadau hudolus Dafydd o’r aderyn a cheisiwn ddyfalu pa dref gastellog y cyfeirir ati. Nodwn fod hen thema gyfarwydd arall yn ymddangos yn y gerdd hon, sef honiad Dafydd ei fod yn glaf oherwydd cariad.

RHANNWCH