Cartref digidol diwylliant Cymru.

Canu Aneirin, Awdl 1

Llenyddiaeth

Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw.

RHANNWCH