Cartref digidol diwylliant Cymru.

Ail Symudiad a’u dylanwad

Black and white photo of Ail Symudiad

Bydd sioe gerdd fydd yn cael ei llwyfannu yn yr Eisteddfod eleni yn deyrnged i fand o Aberteifi a wnaeth gyfraniad allweddol i fyd roc Cymraeg yn lleol ac yn genedlaethol. Gellid dadlau mai Ail Symudiad oedd grŵp mwyaf poblogaidd, llwyddiannus a dylanwadol y Sîn Roc Gymraeg yn ystod y 1980au cynnar. Ar ôl cynhyrfu […]

Nôl i’r Preseli

Photo of Mirain Iwerydd in front of green fields

Y Preseli. Maen nhw’n fwy na thalpau o dir llawn gelaets a grug sy’n amgylchynu dalgylch yr Eisteddfod eleni. I mi, maen nhw’n gysur – y cysur o wybod fy mod i’n rhan o stori barhaus fy mro, sy’n gymaint yn fwy na fy hanes i fel unigolyn. Yn yr ysgol, wrth baratoi at fy […]

Pennod 91 – Cranogwen

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar Sarah Jane Rees (1839-1916), y fenyw amryddawn o Langrannog a fabwysiadodd yr enw Cranogwen. Trafodwn ychydig o’i hanes rhyfeddol, gan gynnwys ei hymwneud â diwydiant morwrol Cymru, a’r ffaith iddi herio a goresgyn rhagfarn yn sawl maes mewn cymdeithas a oedd yn rhywiaethol iawn. Edrychwn ar ddetholiad o’i cherddi, […]

Partneriaeth gyda QueerAF: Ymladd yn Ôl yn erbyn Cod yr EHRC

Mae cod ymarfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn bygwth diogelwch a realiti beunyddiol pobl Traws+ ledled y Deyrnas Unedig. Wrth i bendil ein degawd siglo tuag at ddiffiniadau mwy ffwndamentalaidd o rywedd a rhyw, mae pobl Traws+ yn dal i orfod canfod eu ffordd drwy’r un byd â phawb arall. Mae angen toiledau, ystafelloedd […]

Cadw Cymru’n Agos: Chwilio am y Bychanfyd Cymraeg Tu Hwnt i’r Ffin

Mae Mirain Owen yn trafod pwysigrwydd cyfryngau yn yr iaith Gymraeg fel myfyrwraig sy’n byw ym Manceinion. Pan adewais y nyth i fynd i’r Brifysgol ym Manceinion, derbyniais rybudd gan sawl un am deimlo hiraeth. Awgrymwyd y byddwn yn gweld eisiau Cymru, fy nheulu, fy ffrindiau a’r dirwedd gyfarwydd oedd yn gartref i mi. Roeddwn […]

Llafur a cham cyntaf galar

Rhyfeddol, ond nid annisgwyl, yw sydynrwydd y modd y collodd y cyfryngau Llundeinig bob diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru ar ôl chwyldroad 7 Mai. Efallai fod hynny’n esbonio hefyd pam mai araf fu unrhyw ymateb ystyrlon gan y Blaid Lafur Brydeinig i’r grasfa enbyd a gafwyd yng Nghymru. Os oedd angen cadarnhad pellach o ba mor […]

Baneri

Rhwng cwpan pêl-droed y byd a gwleidyddiaeth, ymddengys bod mwy o godi baneri, ac o drafod arnynt, yn ddiweddar. Dwi’n byw mewn gwlad yn Ne America sydd ag agwedd iach a pharchus at ei baner a’i chenedligrwydd ei hun (ac yn sgil hynny, faneri gwledydd eraill). Hynny, yn ogystal â gweld lluniau ar y cyfryngau […]

Pennod 90 – Aelwyd F’Ewythr Robert

Dyma ni’n parhau i drafod Gwilym Hiraethog yn y bennod hon, gan graffu ar garreg filltir o lyfr a gyhoeddodd yn 1853, Aelwyd F’Ewythr Robert neu Hanes Caban F’Ewythr Tomos. Byddai rhyw wyth trosiad Cymraeg o nofel wrthgaethiwol ddylanwadol Harriet Beecher Stowe, Uncle Tom’s Cabin, yn ymddangos erbyn canol y 1850au, ond cyfrol Gwilym Hiraethog […]

Pennod 89 – Gwilym Hiraethog

Pe bai’n rhaid dewis un llenor yn unig wrth drafod holl lenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Jerry Hunter yn dweud y byddai’n dewis Gwilym Hiraethog (1802-1883). Ganed William Rees mewn teulu o amaethwyr cymharol dlawd ym mhlwyf Llansannan, sir Ddinbych. Ychydig iawn o addysg ffurfiol a gafodd, ond eto byddai’r dyn rhyfeddol […]

Sut i ennill lecsiwn a dylanwadu ar genedl

Mae’n ymddangos bod y cyfryngau cymdeithasol wedi chwarae rhan bwysig yn ymgyrch etholiadol lwyddiannus Plaid Cymru. Yng nghanol hynny roedd y cynhyrchydd cynnwys TANE ROGERS-EIRUG, ac aeth Barn i’w holi am y grefft o gyflwyno gwleidyddion a’u negeseuon ar-lein.   Oes ’na high tebyg i Blaid Cymru yn ennill etholiad Senedd? Dyna oedd gwerthwr cyffuriau […]

Ffarwél

Un peth sydd wedi ei ddweud wrtha’i fwy nag unwaith yn ddiweddar gan y rhai sy’n fy nghofio i’n ferch fach ydi ’mod i wedi altro’n arw o gofio mor swil o’n i ers talwm. Yr awgrym ydi ’mod i wedi bod yn blentyn tawel iawn, ac wedi datblygu wedyn i fod yn oedolyn… wel, […]

Pennod 88 – ‘Chwaeth bresennol y Bobl’: Ceiriog

Trafodwn John Ceiriog Hughes (1832-1887) yn y bennod hon. Ceiriog o bosib oedd y bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.   Wrth graffu ar y modd yr aeth ati i greu a chyflwyno delweddau ‘derbynol’ o Gymru a’r Cymry, nodwn fod ei waith yn enghraifft dda o’r effaith […]

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026: “bydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd”

Ar ddydd Sul 10 Mai, cyhoeddwyd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026 ar sianeli radio cenedlaethol Cymru. Cyhoeddwyd y Rhestr Gymraeg gan y beirniaid Ifor ap Glyn, Gwenno Ffrancon, Dafydd Lennon a Sioned Puw Rowlands ar raglen bwrpasol Llyfr y Flwyddyn 2026 ar BBC Radio Cymru gyda Nest Jenkins. Cyhoeddwyd y Rhestr Saesneg gan y […]

Pennod 87 – ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod

Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn. Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn […]

Brand yn erbyn Ffiniau: Llywio gwelededd fel newyddiadurwr ar ddechrau’r daith

Ydych chi’n datblygu eich llais fel newyddiadurwr, awdur neu weithiwr proffesiynol yn y cyfryngau? Ymunwch â’n panel ar-lein nesaf i drafod gwelededd, hunaniaeth, brand personol a ffiniau ym maes newyddiaduraeth. Dan arweiniad y newyddiadurwr diwylliannol a’r trefnydd cymunedol Sheryl Njini, bydd y sesiwn hon yn edrych ar sut gall newyddiadurwyr ar ddechrau eu taith ymddangos ar-lein, meithrin […]

Gŵyl Lên Llandeilo

Pennod arbennig Colli’r Plot, recordiwyd o flaen gynulleidfa yng Ngŵyl Lên Llandeilo.

Llawer mwy na newid plaid

  Mae ein colofnydd y mis hwn wedi gorfod llunio’i druth cyn i ganlyniadau etholiad 7 Mai gael eu cyhoeddi. Ond mae’n sicr o un peth. Rydym ar fin gweld y newid gwleidyddol mwyaf yng Nghymru ers canrif, ac ar fin ffarwelio â’r Gymru Lafuraidd (1922‑2026), newid sy’n llawer dyfnach nag ystadegau etholiadol.  Ga’i rannu cyfrinach? Ysgrifennu colofn […]

Delfrydiaeth niwlog papur gwyrdd ar ddiwylliant

Prin bod angen dweud y geiriau ‘Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol’ wrth bobl ac mi fyddan nhw naill ai’n rholio eu llygaid, yn rhegi dan eu gwynt neu’n gwylltio’n gacwn am wastraff gwariant llywodraeth Lafur sydd wedi bod mewn grym yn llawer rhy hir. Dwi yn y drydedd garfan bellach, wedi blino ar wleidyddion a chomisiynwyr yn brolio mai […]

Plethu Chwedlau: Adnabod Straeon a’n Hunain

Ymunwch â ni am encil undydd creadigol, profiadol a therapiwtig gan ddefnyddio doethineb chwedlau i feithrin cysylltiad dyfnach â chi’ch hun a’r byd ehangach.   Wedi’i gynnal yn fferm paramaeth hardd Henbant yn Eryri – ac wedi’i arwain mewn ffordd ofalgar gan yr awdur a’r hwylusydd creadigol Silvia Rose a’r seicotherapydd trawma a’r adroddwr straeon […]

Sut i Ddarllen: Casi Wyn

Yn cadw cwmni i Francesca Sciraillo  mae’r gantores a chyfansoddwr Casi Wyn. Yn wreiddiol o ddinas Bangor, Casi oedd Bardd Plant Cymru 2021-2023. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Cariad Yw yn 2024. Mae hi wedi perfformio ei cherddoriaeth ar lwyfannau SXSW, BBC Proms in the Park, yn ogytsal a thaith genedlaethol gyda Sinfonia Cymru. […]

Planet yn cyflwyno noson yn Y Cŵps! 30.05.26

There’s That Dog yn cyflwyno noson yn y Cŵps gyda chylchgrawn Planet! Trafodaeth ôl-etholiad ar wleidyddiaeth Gymreig, celf, hanes, llenyddiaeth a mwy gyda Charlotte Williams, Jamie Harris, Adam Johannes, Lewis Wright (ac yn cofio 30 mlynedd ers ‘Twll Tin i’r Cwîn’…) Cerddoriaeth gan Georgia Ruth Williams Darlleniad barddoniaeth John Barnie Trafodaeth banel gyda Charlotte Williams, […]

Pennod 85 – Rhannu ‘Trysorau Gwerthfawr’: Dechreuadau gwasg gyfnodol Gymraeg America

Dyma’r ail bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn ystod cynhadledd NAASWCH yn Rio Grande, Ohio. Trafodwn hanes cynnar gwasg gyfnodol Gymraeg yr Unol Daleithiau (ac wrth nodi ymlyniadau crefyddol rhai o’r cyfnodolion hyn mae Richard Wyn Jones yn amlygu enwadaeth annisgwyl!). Awn ati wedyn i ganolbwyntio ar y cyfnodolyn Cymraeg Americanaidd cyntaf i […]

STORI

Mae’r STORI wedi’i chynllunio ar gyfer Dysgwyr Cymraeg Byddar a Niwroamrywiol. Oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg? Wyt ti’n mwynhau ysgrifennu creadigol? Mae STORI yn ddull ymlaciol, anffurfiol a chwareus o ddysgu Cymraeg, a thyfu mewn hyder wrth ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig yn dy fywyd bob dydd! Yn The Place, Casnewydd, byddi di’n archwilio’r iaith […]

Deall Ein Lle a Defnyddio Ein Llais

Yn ddiweddar, roedd Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yn bartneriaid ar Newyddion i Bawb: prosiect ymchwil wedi’i leoli ym Mlaenau Ffestiniog. Dan arweiniad ein sylfaenydd Shirish Kulkarni – a ariannwyd gan Gymunedau Creadigol i wneud y gwaith ynghyd â thîm o hwyluswyr – roedd y prosiect yn dilyn adroddiad Newyddion i Bawb yn Grangetown, gan ofyn i’r gymuned leol beth […]

Sut i Ddarllen: Malachy Edwards

Yr awdur a cholofnydd Malachy Edwards yw gwestai Francesca Sciarrillo yn y bennod ddiweddaraf o Sut i Ddarllen.  Yn enedigol o Lundain ac wedi’i fagu yn Ffynnon Taf, mae Malachy Edwards bellach yn byw ar Ynys Môn. Cyhoeddwyd cofiant ffeithiol-greadigol cyntaf yr awdur, Y Delyn Aur, gan Wasg y Bwthyn yn 2023, a chyrhaeddodd y llyfr Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024. Yn y gyfrol, mae Malachy yn […]

Pennod 84 – Yr Hen Bersoniaid Llengar, Ieuan Glan Geirionydd ac Alun

Wrth i ni barhau i ystyried barddoniaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, nodwn yn gyntaf fod barn ysgolheigion diweddarach yn negyddol iawn amdani ar y cyfan. Cawn gyfle felly i ofyn cwestiwn cyffredinol: ai sothach sentimental a gwaith gorgrefyddol sych yw swmp barddoniaeth y cyfnod? Awn ymlaen i drafod ‘yr hen bersoniaid llengar’, Anglicaniaid […]

Pan fo bydoedd yn cwrdd

Mae NIA MORAIS, cyn-Fardd Plant Cymru, newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf o gerddi. Bu Barn yn ei holi am yr hyn sy’n ei hysgogi fel bardd.  Teitl cyfrol newydd Nia Morais yw Yn y Freuddwyd, ac mae’r clawr lliwgar, ffantasïol yn adlewyrchu naws llawer o gynnwys y cerddi sydd y tu mewn. Yn ogystal â’r gerdd deitl, mae yma gerddi eraill sy’n […]

Rhwng Putin a Trump

O Estonia i’r Almaen ac o wlad Pwyl i Norwy, mae gwleidyddion a dinasyddion yn ymgodymu â’r ffaith fod realiti geowleidyddol newydd bellach yn bodoli yn ein byd. Ond beth yw’r ymateb ar yr ynysoedd hyn i’r newyddfyd hwn?  A ninnau wedi ein dal rhwng Putin a Trump, fe ddylai fod yn gwbl amlwg fod ein byd ni, bobloedd Ewrop, wrthi’n newid […]

Sut i Ddarllen: Buddug Watcyn Roberts

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae Buddug Watcyn Roberts  Er yn ifanc mae Buddug iawn wedi bod ar ysgrifennu’n greadigol ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau creadigol: llwyfannwyd drama ganddi gan Gwmni Ifanc Frân Wen ac mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn Codi Pais a rhifynnau Ffosfforws gan gyhoeddiadau’r Stamp.   Yn y bennod mae Buddug yn trafod darllen gwaith Llwyd Owen am y tro cyntaf, grym cyfrolau barddoniaeth, a’r pleser o ddarllen yr un llyfr sawl tro.  Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes  Recordio sain: Aled Wyn Hughes  Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog.    Rhestr Ddarllen  Morgan a Magi Ann – Mary Vaughan Jones  Huw Bob Lliw – Marian Jones  Neli’r Pysgodyn Jeli – Marian Jones  Marc y Siarc – Marian Jones  Ffawd, Cywilydd a Celwyddau – Llwyd Owen  mor hapus – Gwenllian Ellis  Lladd Arth – Kayley Roberts  Cwlwm – Ffion […]

Pennod 83 – Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf

Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth […]

Sut i Ddarllen: Melanie Owen

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r comedïwr, y cyflwynydd ar awdur Melanie Owen.     Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Mel bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae wedi bod yn ysgrifennu am bron i ddegawd, gan gynnwys sgriptiau i Channel 4, BBC Cymru Wales a BBC Radio Cymru.  Roedd ei chyfrol gyntaf, Oedolyn (ish!), ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025.    Yn y bennod mae Mel yn trafod bod yn “Jacqueline Wilson girly,” rhoi darllen ar y to-do list a chrio yn Llyfrgell Aberystwyth.     Ffilmio a golygu: Dafydd Hughes  Recordio sain: Aled Wyn Hughes  Recordiwyd y bennod ar leoliad yn Teddy’s Place, Caerdydd.    Rhestr Ddarllen  Llyfrau Jacqueline Wilson  I Feel Bad About My Neck – Nora Ephron  mor hapus – Gwenllian Ellis  Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens – […]

Pennod 82 – Eben Fardd

Canolbwyntiwn ar Ebenezer Thomas (1802-1863) yn y bennod hon. Mae trafod dechrau’i yrfa lenyddol gynnar yn gyfle i ni ystyried diwylliant barddol Cymraeg hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gyffredinol. Bu rhwydwaith o gymdeithasau Cymraeg yn ei fro enedigol, Eifionydd, yn fodd i’r Ebenezer ifanc hogi’i grefft, dod i adnabod beirdd adnabyddus yr […]

Rhamant, colled a chariad

Ysgrif Goffa  Ym marwolaeth Tony Jones daeth pennod arwyddocaol yn hanes canu poblogaidd Cymraeg i ben. Yma cawn wybod sut y cyfareddwyd un o’n sgriptwyr mwyaf profiadol gan ddawn trin geiriau Tony a’i allu digymar i greu cân.      Yn ogystal â theledu, roedd gennym ni record player Dansette yn y parlwr ym Mryngwran, Môn, ar ddiwedd y 1960au. Roedd hi’n edrych yn hen ffasiwn adeg […]

Ailwylltio trwy gytgord

Barn ar Faterion y Mis  Bu’n gyfnod hir o ddisgwyl cyn i’r cyhoeddiad cyntaf ddod ddechrau mis Chwefror ein bod ni, yr elusen amgylcheddol Tir Natur, wedi prynu dros fil o erwau o dir yng Nghwm Doethïe yn yr Elenydd yng Ngheredigion i’w ailwylltio. Wrth i’r cyhoeddiad ddod, roeddem ar bigau’r drain yn gobeithio – yn gweddïo – […]

Sut i Ddarllen: Geraint Iwan

Yn ymuno a Francesca Scarrillo mae’r awdur a’r cyflwynydd Geraint Iwan.   Dros y blynyddoedd mae wedi dilyn nifer o yrfaoedd a gweithio i lu o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys y BBC, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac amryw o gwmnïau teledu.   Cyhoeddir ei gyfrol gyntaf, Storis Geraint Iwan, storis am yr hyn sy’n llechu dan […]

Rebecca Thomas a David Callander – Artist Preswyl 2025

Rebecca Thomas Mae Rebecca Thomas yn ysgolhaig ac awdur creadigol sy’n arbenigo ar hanes, diwylliant, a llenyddiaeth y Gymru ganoloesol. Ei phrif faes ymchwil yw’r broses o greu hunaniaethau Cymreig mewn testunau canoloesol, ac mae ei llyfr History and Identity in Early Medieval Wales (Boydell & Brewer, 2022) yn archwilio sut y defnyddiwyd enwau, tiriogaeth, […]

Marged Tudur ac Aled Rhys Jones – Artist Preswyl 2025

Marged Tudur Mae Marged Tudur yn fardd, yn awdur ac yn olygydd o Forfa Nefyn; mae hi bellach yn byw yng Nghaernarfon. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd MA mewn Ysgrifennu Creadigol, a derbyniodd PhD ar ddarllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth. Roedd hi’n un o olygyddion […]

Pennod 81 – ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r 19eg Ganrif’

A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg wrth i’r ganrif fynd rhagddi. Ond canolbwyntiwn yn y bennod hon ar un peth […]

Silvia Rose

Mae Silvia Rose yn awdur, tiwtor a hwylusydd sydd wedi’i leoli yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae hi’n sgwennu ar draws ffuglen, ffeithiol a barddoniaeth, ac wedi’i hysbrydoli’n bennaf gan ei gwreiddiau Cymreig a Serbeg, lle, a chwedlau. Yn 2015 graddiodd o Brifysgol Dwyrain Anglia gyda BA Dosbarth Cyntaf mewn Ysgrifennu Creadigol. Cafodd ei dewis fel […]

Sut i Ddarllen: Sioned Erin Hughes

Yn ymuno a Francesca Sciarrillo mae’r bardd a’r awdur Sioned Erin Hughes. Daw Erin yn fardd o Ben Llŷn. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tregaron yn 2022 gyda’i chyfrol gyntaf i oedolion, Rhyngom (Y Lolfa). Hi oedd golygydd y gyfrol Byw yn fy Nghroen (Y Lolfa) a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020, Iaith Heb Ffiniau (Carreg Gwalch) a chydolygydd Beyond/Tu Hwnt (Lucent Dreaming). Roedd ei chyfrol O’r Rhuddin ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, ac fe gyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o gerddi Fel y Moroedd y llynedd. Yn y bennod mae Erin yn trafod ei diffyg diddordeb mewn llyfrau yn blentyn, effaith a dylanwad […]

Pennod 80 – Ann Griffiths (1776-1805)

Tan yn ddiweddar, Ann Griffiths oedd yr unig fardd benywaidd a welid mewn canonau llenyddol Cymraeg. Nid yw’n syndod felly i Richard Wyn Jones ddweud ei fod yn lled gyfarwydd â hi wrth i ni ddechrau trafod yr emynyddes enwog yn y bennod hon. Ond mae Richard yn dysgu’n fuan fod agweddau syfrdanol ar hanes […]

Papurau Bro: Y Newyddiaduraeth Fwyaf Cynhwysol yn y Byd?

Mae gan gario clecs enw drwg, gan taw sibrydion a rholio llygaid yw’r ffordd mae’n cael ei weld, ac mae’n cael ei ddiystyru fel rhywbeth dibwys neu greulon, rhywbeth i’w anwybyddu yn hytrach na’i ddeall. Cawn glywed ei fod yn amhroffesiynol, ac nad yw’n haeddu sylw. Ond, yn y bôn, mae cario clecs yn hanfodol, […]

Pwy piau’r gwynt?

Daeth cyhoeddiad diweddar Llywodraeth y DU am ddau gynllun gwynt ar y môr arfaethedig â hwb mawr i sector ynni gwyrdd Cymru. Yn eu sgil daw addewidion sylweddol o ran swyddi a digon o drydan ar gyfer mwy na hanner cartrefi Cymru.  Fferm wynt Erebus oddi ar arfordir Sir Benfro yw un o’r cynlluniau hynny – gyda […]

Y teulu trafferthus

Athro ysgol o Swydd Mayo ydi Enoch Burke ac enw amlwg iawn yn Iwerddon ar hyn o bryd, nid oherwydd unrhyw gampau addysgol yn y dosbarth ond yn sgil helynt sy’n deillio o’r modd priodol o ddefnyddio’r rhagenwau wrth gyfeirio at unigolion traws – helynt sydd wedi troi’n bantomeim a hanner yn llysoedd barn y Weriniaeth.    Yn ein […]