Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026: “bydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd”

Llenyddiaeth

Ar ddydd Sul 10 Mai, cyhoeddwyd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2026 ar sianeli radio cenedlaethol Cymru.

Cyhoeddwyd y Rhestr Gymraeg gan y beirniaid Ifor ap Glyn, Gwenno Ffrancon, Dafydd Lennon a Sioned Puw Rowlands ar raglen bwrpasol Llyfr y Flwyddyn 2026 ar BBC Radio Cymru gyda Nest Jenkins. Cyhoeddwyd y Rhestr Saesneg gan y beirniad Shirish Kulkarni ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales. Yn gwmni i’r beirniaid a’r cyflwynwyr ar y darllediadau, roedd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, yr elusen sy’n rhedeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Bob blwyddyn, mae Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn. Mae’r Rhestr Fer yn cynnwys cyfanswm o 24 llyfr – deuddeg ym mhob iaith, tri ym mhob categori.

Noddir y Brif Wobr Gymraeg eleni gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, a’r Brif Wobr Saesneg gan Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.

 

Y Rhestr Fer

Ymysg y Rhestr Fer eleni, mae Prifeirdd, cyn-enillwyr Llyfr y Flwyddyn, ac ambell awdur sy’n cyhoeddi llyfr am y tro cyntaf neu sydd wedi mentro â ffurf newydd. Mae sawl un o’r cyfrolau yn ymwneud â chyfiawnder a pherthyn. Ceir yma archwiliadau dwys o brofiadau bywyd, o hunaniaeth, a cawn yr argraff y gallwn gamu ymlaen i’r dyfodol â gobaith trwy ddysgu a deall ein hanes.


Gwobr Ffuglen – Noddir gan Cyfrifyddion HSJ
Dau, Bethan Nantcyll (Gwasg y Bwthyn)
Hiraeth Neifion, Simon Chandler (Gwasg Carreg Gwalch)
Tri, Sonia Edwards (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Farddoniaeth – Cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Trochi, Carwyn Eckley (Gwasg Carreg Gwalch)
Mae, Mererid Hopwood (Cyhoeddiadau Barddas)
Chwarter Eiliad, Jo Heyde (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol – Noddir gan Stori Cymru
Lobsgows – Cariad y Cymry at Fwyd, Ruth Richards (Gwasg Carreg Gwalch)
Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni – Ar Lwybrau ‘Atgof’ Prosser Rhys , Iestyn Tyne (Gwasg y Bwthyn)
Ynysoedd Gobaith – Mentrau a Syniadau Iwtopaidd yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif, Llion Wigley (Gwasg Prifysgol Cymru)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – Cefnogir gan Gronfa Elw Park-Jones
Anfarwol, Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)
Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael Ei Ddarllen, Sion Tomos Owen (Atebol)
Y Cae Ras, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Bob blwyddyn, mae Llenyddiaeth Cymru yn penodi panel o feirniaid talentog a phrofiadol i ddarllen, dewis a dethol y Rhestrau Byrion ac yna dewis eu henillwyr categori. Mae Ifor ap Glyn yn Brifardd, awdur, ac ef yw cyn-Fardd Cenedlaethol Cymru. Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol ar gyfer y Gymraeg, ei Threftadaeth a’i Diwylliant ym Mhrifysgol Abertawe yw Yr Athro Gwenno Ffrancon, lle mae ganddi gyfrifoldeb strategol dros sicrhau bod y Gymraeg, diwylliant a threftadaeth yn rhan annatod o bob agwedd ar fywyd y brifysgol. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Academi Hywel Teifi y Brifysgol a Rheolwr Tŷ’r Gwrhyd, Canolfan Gymraeg Cwm Tawe. Mae Dr Sioned Puw Rowlands yn awdur, golygydd ac ysgolhaig o Aberystwyth. Mae Dafydd Lennon yn wyneb cyfarwydd fel cyflwynydd Cyw ar S4C. Mae hefyd yn ymarferydd drama, a chanddo brofiad o ddysgu plant 4-11 oed.

Ar ran y panel Cymraeg, dywedodd Yr Athro Gwenno Ffrancon: “Bu’n fwynhad pur darllen y gweithiau Cymraeg a gyhoeddwyd eleni a phwyso a mesur yr amrywiaeth eang o gyfrolau a ddaeth i law. Gyda’r byd yn gwallgofi bron yn ddyddiol, roedd hi’n hyfryd cael dianc i fydoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd a mwynhau doniau a ffrwyth dychymyg yr awduron.”

 

Y Rhestr Fer Saesneg

Gwobr Farddoniaeth – cefnogir gan Parry Davies Clwyd-Jones & Lloyd
Hôtel Amour, Deryn Rees-Jones (Seren Books)
The Storm’s Flora, Laura Wainwright (Seren Books)
Fourth & Walnut, Jeremy Over (Carcanet Press)

Gwobr Ffuglen  Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Pulse, Cynan Jones (Granta Publications)
Cold Grace, Meredith Miller (Honno Press)
A Room Above A Shop, Anthony Shapland (Granta Publications)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
One Woman Walks Europe, Ursula Martin (Honno Press)
Children of Radium: A Buried Inheritance, Joe Dunthorne (Hamish Hamilton)
There She Goes, My Beautiful World, Gosia Buzzanca (Calon)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc – noddir gan Darwin Gray
Vanishing Edge, Zillah Bethell (Firefly Press)
My Dog, Olivia Wakeford (Harper Collins Children’s Books/ Harper Fire)
The Wicked Lies of Habren Faire, Anna Fiteni (Electric Monkey, HarperCollins)

Ar y panel beirniadu Saesneg eleni mae: y bardd, beirniad llenyddol ac Athro Barddoniaeth ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor, Zoë Skoulding; yr awdur ac enillydd prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2021, Catrin Kean; y newyddiadurwr arobryn ac ymchwilydd, Shirish Kulkarni; a Goruchwyliwr Llyfrgell Maesteg a enillodd le gwerthfawr ar Restr CILIP 125, Julie Golden.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ei chynnal gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004. Dros y blynyddoedd hynny, mae’r wobr wedi ei chipio gan lenorion mwyaf toreithiog ac adnabyddus Cymru ochr yn ochr ag awduron disglair sy’n cyhoeddi am y tro cyntaf.

Dywedodd Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i’r awduron ar y rhestr fer eleni. Bu’n flwyddyn ragorol arall i lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig, sy’n cael ei adlewyrchu nid yn unig yn y rhestr anhygoel hon, ond hefyd o edrych ar yr holl lyfrau gwych a gyhoeddwyd dros y flwyddyn diwethaf. Mae’n rhaid fod y beirniaid wedi cael cyfnodau dwys iawn o grafu pen! Rydym bob amser yn edrych ymlaen at ddarganfod eu dewisiadau, ac yn cael mwynhad mawr o’r cyfnod rhwng cyhoeddi’r rhestr fer a’r seremoni wobrwyo – amser i ddarllen, trafod a dathlu. Ewch draw i’ch siop lyfrau neu lyfrgell leol, darganfyddwch y llyfrau rhyfeddol hyn, ac ymunwch â’r sgwrs: beth yw eich Llyfr y Flwyddyn chi yn 2026?”

Caiff enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn Galeri Caernarfon ar nos Iau, 9 Gorffennaf. Bydd 12 gwobr a chyfanswm o £14,000 yn cael eu rhannu ymysg yr awduron, £1,000 yr un i’r enillwyr categori a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal, bydd yr awduron llwyddiannus yn derbyn tlysau eiconig Llyfr y Flwyddyn wedi eu dylunio yn arbennig gan yr artist, Angharad Pearce Jones.

Mae cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud unwaith eto eleni wrth i Golwg360 a Nation Cymru gynnal pleidleisiau Barn y Bobl a People’s Choice ar eu gwefannau yn syth wedi cyhoeddi’r rhestrau byrion. Caiff enillwyr y gwobrau hyn eu henwi yn y seremoni wobrwyo yn ogystal.

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau ar y Rhestr Fer a’r awduron a’u ysgrifennodd, ewch i www.llenyddiaethcymru.org/llyfr-y-flwyddyn.

RHANNWCH