Ysgrif Goffa
Ym marwolaeth Tony Jones daeth pennod arwyddocaol yn hanes canu poblogaidd Cymraeg i ben. Yma cawn wybod sut y cyfareddwyd un o’n sgriptwyr mwyaf profiadol gan ddawn trin geiriau Tony a’i allu digymar i greu cân.

Yn ogystal â theledu, roedd gennym ni record player Dansette yn y parlwr ym Mryngwran, Môn, ar ddiwedd y 1960au. Roedd hi’n edrych yn hen ffasiwn adeg hynny hyd yn oed. Bocs lliw hufen, dwl. I’w drin â gofal! A finnau’n hogyn bach da, roeddwn i’n gosod y senglau yn eu lle yn araf deg rhag eu sgratsho. Un ar ben y llall cyn tynnu’r fraich ar draws i’w cloi yn eu lle. Ac wedyn, eistedd a gwrando. A rhyfeddu. Darnau crwn o blastig du, feinyl yn rhyddhau synau gwefreiddiol, rhyfeddol.
Cyfyng braidd oedd casgliad recordiau Mam. Heblaw am ‘She loves you / I feel fine’ y Beatles, roedd y gweddill yn Gymreig neu’n Gymraeg. Tom Jones a’i hiraeth am y ‘Green green grass of home’, Petula Clarke yn mynd â fi ‘Downtown’, Hogia’r Wyddfa’n mynd â fi i ‘Sefyll yn y Bwlch’, a Hogia’r Ddwylan a Hogia Bryngwran wrth reswm. Roeddwn i’n nabod Hogia Bryngwran ac yn eu gweld yn y pentref bob dydd ac roeddan nhw’n canu yn y bocs yn y parlwr. Er mor rhyfeddol oedd hynny, doedd o’n ddim o gymharu â Tony ac Aloma. Roedd yna ryw ramant a dirgelwch yn yr enw ‘Aloma’ hyd yn oed. Roedd yna rhywbeth arbennig am y ddau. Cyn gwrando nodyn, roedd y lluniau ar y cloriau’n addo rhywbeth newydd, gwahanol, modern.
Roedd gan Tony gariad, ac Aloma oedd honno, ac roedd y ddau yn falch o gyhoeddi hynny. Roeddwn innau yn falch hefyd. Balchach fyth pan aeth Mam â fi i’w gweld nhw’n canu yng nghapel Caergeiliog. Roedd y sŵn yn y bocs yn y tŷ bellach yn ddau berson byw, presennol yn y cnawd. Yn edrych i lygaid ei gilydd gyda’r un cariad ac angerdd ag yr oeddwn i wedi’i ddychmygu a’i ddymuno ar eu rhan. Mae gen i lofnodion y ddau o’r noson honno.
Ond dagrau pethau ydi bod bywyd go iawn yn rhoi pwniad penelin go giaidd i ramant. Y tro nesaf i mi weld Tony oedd yn siop bwcis Bob Jones yn Llangefni ar ddiwedd y 1970au a finna’ bellach yn hogyn drwg yn Form 6 yn betio ar y ceffylau efo’n ffrindiau. Roedd Tony ar ben ei hun, ac ar ben ei hun oedd o pan welish i o yn y Maelog Lake Hotel, Rhosneigr, yn y 1980au cynnar. Doedd ganddo neb yn ateb ‘y fi ’di honno’.
Colled, cariad a hiraeth am wn i ydi prif themâu y bardd Tony Jones. Ei ddawn i gyfleu’r rhain i gyd mewn ffordd mor onest ydi ei grefft. Mae ei eirfa mor naturiol, mor agos at rywun, mor hawdd. Mor onest.
Gyda Tony ac Aloma rywle yng nghefn fy meddwl, fe es i ati i gystadlu yng nghystadleuaeth ysgrifennu dyddiadur yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 1997. Ar ôl bod yn lwcus yn fan’no, yn ffodus bu i Robin Evans (Ffilmiau’r Nant) ddarllen y cyfansoddiadau a chynnig syniad am gyfres i S4C – Mae gen i gariad. Yr unig elfen oedd yn hunangofiannol yn y gyfres oedd y ffaith bod yr ‘arwr’ wedi gwirioni ar Tony ac Aloma. Yn ystod y gyfres mae’r prif gymeriad a’i wraig yn cymodi a dod yn ôl at ei gilydd, ac er mwyn dathlu mae o’n penderfynu mynd â hi i Blackpool ac i aros yng ngwesty’r Gresham. Uchafbwynt y bennod yw gweld y ddau’n closio wrth ddawnsio cyn i’r siot ledaenu i ddatgelu Tony ac Aloma’n canu ‘Ddoi di’m yn ôl?’.
Doeddwn i ddim yno, ond ymhen rhai blynyddoedd, tra oeddwn i’n ysgrifennu Gwlad yr Astra Gwyn, daeth cais am bennod arbennig awr o hyd. Penderfynais y byddai Trefor Tacsi a’i ffrindiau wrth eu boddau’n mynd i Blackpool am sbri. Roedd rhaid i mi fynd draw yno i wneud gwaith ymchwil. Fe gefais i bleser mawr o gyfarfod fy arwr a malu awyr hefo fo am Sir Fôn. Dyn hoffus, annwyl, doniol a gwylaidd oedd Tony.
Mae’n debyg bod posib fy nghyhuddo o orffen y darn yma yn rhy ystrydebol wrth ddweud bod Cymru ‘wedi colli rhywun sy’n annwyl’. Dydw i ddim am ymddiheuro. Mae gen i natur sentimental. Ac rydw i’n eithaf siŵr fod yna elfen sentimental, hyfryd yn Tony Jones hefyd.
Graham Jones
- Ganed Thomas ‘Tony’ Jones ar 9 Tachwedd 1939. Bu farw ar 1 Chwefror 2026.