Cylchgrawn materion cyfoes yn ystyr ehangaf y term yw Barn. Fe’i sefydlwyd yn 1962. Cyhoeddir 10 rhifyn mewn blwyddyn yn cynnwys dau rifyn dwbwl. Y nod yw cynhyrchu cyhoeddiad sy’n sylweddol ac yn ddarllenadwy o ran cynnwys ac yn ddeniadol ac yn broffesiynol o ran diwyg. Defnyddiwyd y term ‘bwydo’r meddwl Cymreig’ gennym i ddisgrifio swyddogaeth Barn. Rhoddir sylw i wleidyddiaeth a chymdeithas yng Nghymru a thu hwnt; ac mae llenyddiaeth a’r celfyddydau yn hawlio rhan helaeth o’r cylchgrawn. Gwerthfawrogir hefyd yr ysgrifau teyrnged sy’n cofnodi cyfraniadau cymwynaswyr y genedl. Mae tîm o awduron a cholofnwyr sefydlog yn sicrhau sail a chysondeb safonol i’r cylchgrawn, ond mae darganfod awduron newydd a rhoi cyfle iddynt hefyd yn un o nodau ein gweledigaeth. Cylchgrawn print yw BARN yn ei hanfod ac o ran ei hanes, ond fe’i cyhoeddir hefyd ar y wefan www.barn.cymru ac mae modd prynu tanysgrifiad digidol yn unig. Rydym hefyd yn cyhoeddi deunydd ychwanegol ar flog y wefan.