
Mae ein colofnydd y mis hwn wedi gorfod llunio’i druth cyn i ganlyniadau etholiad 7 Mai gael eu cyhoeddi. Ond mae’n sicr o un peth. Rydym ar fin gweld y newid gwleidyddol mwyaf yng Nghymru ers canrif, ac ar fin ffarwelio â’r Gymru Lafuraidd (1922‑2026), newid sy’n llawer dyfnach nag ystadegau etholiadol.
Ga’i rannu cyfrinach? Ysgrifennu colofn mis Mai mewn blwyddyn etholiadol ydi’r gorchwyl anoddaf o ddigon sy’n fy wynebu fel un o gyfranwyr cyson cylchgrawn Barn. Mae yna reswm syml iawn am hynny. Yn naturiol ddigon, nid oes modd osgoi pwnc yr etholiad sydd erbyn hynny ar ein gwarthaf. Byddai’n beth rhyfedd ar y naw i mi geisio osgoi’r eliffant ar garreg y drws, fel petai.
Eto, oherwydd amserlen gyhoeddi cylchgrawn misol, rwy’n gwybod i sicrwydd y bydd pethau wedi newid rhwng i mi gyfansoddi fy llith ac i chi gael ei darllen. Fe fydd yna arolygon barn wedi eu cyhoeddi; fe fydd yna ddadleuon teledu ychwanegol wedi eu darlledu; ac fe fydd yna ryw ymgeisydd yn rhywle wedi baglu neu wneud cam gwag. Ac wrth reswm, ar ben hynny i gyd, fe fydd yna ddatblygiadau mawr a mân y tu hwnt i ffiniau Cymru a all fod yn berthnasol i’n hetholiad ni. Mae perygl mawr, felly, y bydd unrhyw beth a ddywedaf yn y golofn hon un ai’n amherthnasol neu’n ymddangos yn anhraethol o dwp!
Ond am unwaith, a minnau’n wynebu fersiwn y sylwebydd gwleidyddol o’r ‘coridor ansicrwydd’ – chwedl teitl podlediad pêl‑droed BBC Radio Cymru – mae yna dir sefydlog i sefyll arno. Oherwydd, doed a ddelo, gallwn fod yn gwbl sicr am un peth. Fe gaiff 2026 ei chofio fel y flwyddyn y daeth dominyddiaeth etholiadol y Blaid Lafur yng Nghymru i ben. Ydym, rydym ar drothwy’r newid mwyaf arwyddocaol yn y gyfundrefn bleidiol yng Nghymru ym mywydau gwleidyddol pob un o ddarllenwyr y cylchgrawn hwn.
O ystyried mai dominyddiaeth etholiadol Llafur fu’r ffaith ganolog yng ngwleidyddiaeth ein gwlad – sylfaen a rhagamod popeth arall, mewn gwirionedd – a hynny ers dros ganrif, mae’n anodd iawn gorbwysleisio arwyddocâd yr hyn sydd ar fin digwydd. Ond rhaid cydnabod ar yr un gwynt ei bod hefyd yn amhosibl rhagweld beth yn union fydd goblygiadau diwedd gafael etholiadol Llafur yn ei olygu i Gymru, a hynny oherwydd fod Llafur wedi bod yn rym hegemonaidd yn ein plith.
Gyda’r Sardinwr Antonio Gramsci y cysylltir y gair hegemoni, gan amlaf. Ond dichon y bydd y sawl sy’n ymddiddori yn hanes Cymru yn fwy tueddol o’i gysylltu gyda gŵr y bu dylanwad Gramsci yn fawr arno, sef yr hanesydd o Ddowlais Gwyn Alf Williams, a’i glasur o lyfr When Was Wales? (1985).
I’r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â’r term, y pwynt pwysig yw hwn: pan ddywedir bod Llafur wedi bod yn rym hegemonaidd yng Nghymru mae’n golygu llawer mwy na’i bod wedi ennill etholiad ar ôl etholiad ddegawd ar ôl degawd. Mae’n golygu bod y blaid wedi llwyddo i drosi arweinyddiaeth wleidyddol yn arweinyddiaeth ddiwylliannol a hyd yn oed yn arweinyddiaeth foesol yng Nghymru. Yn syml, daeth gwerthoedd Llafur yn gyfystyr â hanfod Cymreictod. O ganlyniad, bydd diwedd goruchafiaeth y blaid yn golygu llawer mwy na newid lliwiau ar fap etholiadol. Fe fydd yn prysuro proses o ailystyried ein hunaniaeth a’n lle yn y byd, ein diwylliant a’n gwerthoedd.
Efallai’n wir fod hon yn broses angenrheidiol, ond go brin y bydd yn un hawdd na chyffyrddus. Yn wir, roedd Gramsci ei hun – gŵr a erlidiwyd hyd at farwolaeth gan lywodraeth ffasgaidd Mussolini – yn rhybuddio y gallai pob math o ‘symptomau’ tywyll a pheryglus ymddangos yn y gofod a grëir wrth i hen drefn hegemonaidd edwino ac un arall gymryd ei lle. Dyma, mae’n debyg, fydd ein ffawd ni ac nid oes wybod pa symptomau a fydd yn ein plagio na chwaith beth a ddaw i gymryd lle’r Gymru Lafuraidd yr ydym wedi trigo oddi mewn iddi ers dros ganrif.
Cwestiwn arall cysylltiedig sy’n codi wrth i ni ddechrau pendroni ynglŷn â chanlyniadau diflaniad hegemoni Llafur yw ymateb y blaid ei hunan. Os yw ymateb cefnogwyr y Blaid Ryddfrydol yng Nghymru wrth i’r blaid honno golli ei goruchafiaeth ddechrau’r 1920au yn cynnig arweiniad, gallwn ddisgwyl y bydd y rheini sy’n weddill o gefnogwyr Llafur yn arddangos cyfuniad o anghredinedd, dicter a galar am eu ffawd.
Yr hyn sy’n wahanol ynghylch y 2020au, wrth gwrs, yw bodolaeth haen o lywodraeth ddatganoledig yn ogystal â’r haen Brydeinig. O gofio hyn, ac o ystyried y bydd 27 (allan o 32) o’n haelodau seneddol yn San Steffan yn parhau’n gynrychiolwyr Llafur waeth beth a ddaw ar 7 Mai, efallai mai’r ymateb cyntaf o du Llafur fydd yr hyn y mae seicolegwyr yn ei alw’n ‘ymwadiad’. Hynny yw, byddant yn ceisio gwadu bod yna newid sylfaenol ar droed a bod yr etholwyr yn hytrach yn ceisio cosbi’r grŵp Llafur yn y Senedd yn hytrach na’r blaid drwyddi draw. Os felly, bydd yn rhaid disgwyl am gyfnod cymharol fyr eto cyn i Lafur ddechrau derbyn fod y rhod wedi troi.
Ac wedyn? Eto mae’n amhosibl gwybod i sicrwydd, ond mae’n demtasiwn bwrw golwg yn ôl i’r 1920au unwaith yn rhagor a sylwi ar y modd yr ymrannodd y Blaid Ryddfrydol Gymreig yn garfannau llai a oedd yn aml yng ngyddfau ei gilydd. Grym oedd y glud a gadwodd y blaid yn unedig yn ystod ei hoes aur. Pan drodd etholwyr Cymru ei chefn arni, fe chwalodd y blaid gan brysuro’r broses o’i gwneud yn fwyfwy amherthnasol ym mywyd y wlad.
Mae cyflwr llipa’r Rhyddfrydwyr Democrataidd ganrif yn ddiweddarach yn ein hatgoffa o’r adnod enwog honno yn Ail Lyfr Samuel – ‘pa fodd y cwympodd y cedyrn’. Ar ôl y cwymp, ni ddaeth adferiad na dim yn debyg i hynny. Aeth y Gymru Ryddfrydol yn hen hen hanes. A ninnau, pob un ohonom, yn gynnyrch y Gymru Lafuraidd, mae’n anodd iawn i ni ddychmygu y gall Llafur fyth blymio i’r fath ddyfnderoedd. Ond wrth i Gymru newydd a dieithr ddechrau ymrithio o’n blaenau, ni ddylem gymryd unrhyw beth yn ganiataol.
Richard Wyn Jones