Prin bod angen dweud y geiriau ‘Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol’ wrth bobl ac mi fyddan nhw naill ai’n rholio eu llygaid, yn rhegi dan eu gwynt neu’n gwylltio’n gacwn am wastraff gwariant llywodraeth Lafur sydd wedi bod mewn grym yn llawer rhy hir. Dwi yn y drydedd garfan bellach, wedi blino ar wleidyddion a chomisiynwyr yn brolio mai ni yw’r wlad fwyaf blaengar yn y byd, tra mae pob tystiolaeth yn dangos ein bod yn un o’r rhai mwyaf anobeithiol yn y rhan fwyaf o’r meysydd sy’n cyfri.
Felly gydag ochenaid drymlwythog yr ymatebais i’r newydd fod yna Bapur Gwyrdd wedi ei gyflwyno gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn trafod deddf diwylliant i Gymru, gan gasglu tystiolaeth ar gyfer y llywodraeth newydd ar ôl mis Mai. Mae’r papur yn cynnwys adroddiad wedi ei baratoi gan The Audience Agency o Fanceinion, ‘whose purpose is to enable a thriving, people‑centred cultural sector’.
O leiaf mae’r papur yn nodi bod diwylliant mewn argyfwng yng Nghymru, diolch i lywodraeth Lafur sydd wedi sicrhau’r gwario lleiaf yn Ewrop ar ddiwylliant (ar ôl Groeg). Mae yna bwyntiau gwerthfawr ynddo sy’n cydnabod bod diffygion mewn meysydd fel hanes a hanes lleol, a bod y sefyllfa’n ymddangos yn waeth i bobl sy’n byw yng nghefn gwlad.
Ond sut gall adroddiad fel hyn beidio â sôn o gwbl am ddiwylliant Cymraeg? Mae digon o sôn am lesiant a bywiogrwydd ac ‘argaeledd amrywiaeth synhwyraidd gwybyddol’, beth bynnag yw hynny, ond dim diffinio yr hyn yw diwylliant na phwysigrwydd diogelu diwylliant ein hiaith genedlaethol.
Mae dylanwad y Blaid Lafur ar hyn oll, wrth gwrs, yn llywio gweinidogion a chomisiynwyr i gyfeiriad sifig, cynhwysol ers degawdau. Bu’r methiant i ymdrin yn iawn gyda’n hanes yn y byd addysg yn enghraifft o ddiffyg yn deillio o’r meddylfryd hwn.
Un o’r rhesymau am hyn yw iddynt ddilyn trywydd dylanwadau deallusol ffasiynol allanol, ac mae’r effaith i’w gweld mewn meysydd di‑ri. Fel y dywedodd Simon Brooks yn rhagair ei gyfrol Hanes Cymry: ‘Yn hytrach na bod syniadau y traddodiad Cymraeg yn cael eu harddel, cymhellir Cymry i dderbyn geirfa o’r traddodiad deallusol hegemonaidd Saesneg. Swyddogaeth ansoddeiriol (hynny yw, eilaidd) sydd gan y traddodiad brodorol wedyn, sef ceisio Cymreigio cysyniadau a feithrinwyd gan y diwylliant Angloffon dominyddol.’
A dyna a welir yn yr adroddiad meddal, amwys yma a gyfieithwyd i sgrwtsh o Gymraeg annealladwy, heb gynnig ffydd y bydd yn arwain at unrhyw welliannau clir yn y byd go‑iawn. Pam ddim buddsoddi mwy yn y cyrff sy’n ymwneud â diwylliant yn barod, yn hytrach na gwastraffu mwy o amser ar fiwrocratiaeth ac adroddiadau di‑ddim?
Mae Richard Wyn Jones yn y cylchgrawn hwn wedi tynnu sylw at y ffaith fod Senedd Cymru wedi pasio mwy na’i chyfran o ddeddfau sy’n ‘brin iawn iawn o sylwedd go‑iawn’. Ac mae’r un teimlad o amwysedd a delfrydiaeth niwlog yn nodweddu’r Papur Gwyrdd hwn, fel yn achos Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ‘na chafodd nemor ddim ardrawiad yn y byd go‑iawn’, fel y dywedodd Richard.
Lefi Gruffudd
Lefi Gruffudd yw Pennaeth Cyhoeddi Gwasg y Lolfa a bu’n golofnydd wythnosol gyda’r Western Mail.