Creating The Five – Elgan Rhys

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Pennod 67 – Ochr Arall y Geiniog
Mae’r penodau diwethaf wedi canolbwyntio ar y Diwygiad Methodistiaidd a’r hyn a enillwyd yn sgil y trawsffurfiad crefyddol, cymdeithasol a llenyddol hwnnw, gan edrych yn benodol ar waith William Williams, Pantycelyn. Edrychwn yn y bennod hon ar yr hyn a gollwyd wrth i Ymneilltuaeth Gymreig wthio rhai agweddau traddodiadol ar ddiwylliant a llenyddiaeth Cymru i’r […]
Gŵyl Arall
Pennod yn fyw o Gŵyl Arall Caernarfon. Ymddiheuriadau am ansawdd y sain yn y bennod hon.
Camau gwag Starmer – gwersi i Rhun

Ar ôl cipio mwyafrif anferthol yn yr Etholiad Cyffredinol flwyddyn yn ôl, mae llywodraeth Keir Starmer mewn dyfroedd dyfnion. A da o beth, ym marn ein colofnydd, fyddai i Rhun ap Iorwerth a Phlaid Cymru graffu ar y camgymeriadau a barodd i hyn ddigwydd. Yr wyf yn ysgrifennu hyn o eiriau ychydig ddyddiau’n unig cyn […]
Stryd Gerallt a’r Cae Ras

Sut brofiad oedd ac yw byw yn ardal Wrecsam? Gofynnodd BARN i dri amrywiol eu cefndi-roedd geisio diffinio beth mae Wrecsam yn ei olygu iddynt hwy. Y gymuned o ’nghwmpas i ydi’r peth pwysicaf am Wrecsam i fi. Fe wnes i golli dad ar ddi-wedd cyfnod Covid, ac mae’r ffordd wnaeth y gymuned ddod ynghyd […]
Pennod 66 – Bardd Diofal?: Williams Pantycelyn (rhan 3)
Rydym ni’n gorffen trafod yr emynydd mawr yn y bennod hon trwy ofyn cwestiwn a fydd o bosib yn annisgwyl i’r rhan fwyaf o’n dilynwyr, sef a oedd Pantycelyn yn fardd diofal? Dyfynnwn nifer o ysgolheigion o’r ugeinfed ganrif sy’n awgrymu hyn, gan gynnwys Saunders Lewis a ddywedodd nad oedd William Williams yn parchu geiriau […]
Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025

Bydd y ffrwd ar gael i’w wylio yma o 7.00yh ymlaen Bydd Seremoni Llyfr y Flwyddyn 2025 yn cael ei ffrydio o Theatr y Sherman, Caerdydd yma ar Am! Ymunwch â ni ar Orffennaf 17eg am noson wefreiddiol i ddathlu llwyddiannau llenorion talentog Cymreig.
Amy Grandvoinet

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Ein Hartist y Mis yw Amy Grandvoinet! Ar hyn o bryd mae Amy yn byw yn Aberystwyth ac yn ceisio byw ‘bywyd go iawn’. Mae hi’n gwneud ei ymchwil doethuriaeth yn y maes seicoddaearyddiaeth lenyddol a bydd hi’n […]
Pennod 65 – ‘Pererin Wyf’: Williams Pantycelyn (rhan 2)
Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y bu iddo […]
Chwilio am Swydd gydag Awtistiaeth: Y Rhwystrau a Wynebwn

Yn gynharach heddiw, gwiriais fy ffôn a gwelais alwad a gollwyd o gwpl o oriau ynghynt. Ar ôl chwilio am y rhif ar Google, fel rwy’n ei wneud fel arfer, cefais fy synnu o’r ochr orau i ddarganfod nad sbam oedd e ond o’r sefydliad yr oeddwn wedi cael fy nghyfweld ag ef ddydd Gwener […]
British Fantasy Awards

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg
Wizard’s Tower Press

Cwmni cyhoeddi annibynnol sy’n arbenigo mewn ffuglen wyddonol a ffantasi.
Pennod 64 – ‘Williams biau’r Emyn’
Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg. Dyma […]
Partneriaeth QueerAF: Cyfleoedd i awduron LHDTQIA+ o Gymru sydd ar ddechrau eu gyrfa

Yn dilyn llwyddiant ein cyfres ddiwethaf o gomisiynau, rydym yn partneru â Queer AF ar gyfer carfan arall o fentora. Byddant yn cynnal cyfres bwrpasol o ddarnau meddwl fel rhan o gynllun ysgrifennu nodedig QueerAF, Queer Gaze. A gallech chi fod yn un o’r awduron llwyddiannus. Y cyfle Bydd tri newyddiadurwr LHDTCIA+ o Gymru, […]
Issue 002: Speak to Me

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg. Dysgwch fwy am gylchgrawn Folding Rock ar eu gwefan foldingrock.com. .
Awduron di-dâl
Mae Siân mewn penbleth ac mae’n gofyn am gymorth gan y pedwar… sydd yn fawr o help! Pryd mae’n iawn i ofyn am daliad a pham fod gymaint o ddigwyddiadau yn disgwyl i awduron cynnal noson yn ddi-dâl? Iaith ddiniwed Bethan, ymwelydd o ben draw’r byd, a llwyth o lyfrau. Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau […]
Pennod 63 – Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd

Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, […]
Yr arolwg barn blwyddyn-i-fynd

Wrth ymateb i’r pôl piniwn diweddaraf am ganlyniadau etholiad nesaf y Senedd, mae ein colofnydd yn mentro rhagweld newidiadau dramatig yn y byd gwleidyddol Cymreig. Ffawd y sawl ohonom sy’n ymddiddori yng ngwleidyddiaeth etholiadol Cymru yw ein bod wedi gorfod arfer â’r ffaith mai ychydig iawn sy’n newid. Yn hytrach na chael trafod y cyffro […]
Evrah Rose

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni’n tynnu sylw at waith anhygoel un o’n haelodau. Ein Hartist y Mis yw Evrah Rose! Y bardd, awdur a cherddor rap, enillodd Evrah Rose boblogrwydd cenedlaethol trwy ei waith sy’n taro’n galed a’i hegni di-ofn. Darllenwch y nodwedd isod i ddysgu mwy am waith Evrah, yr […]
‘Gorddiagnosis’: Sut mae’r cyfryngau’n stigmateiddio gwahanol feddyliau

Pan agorais ‘X’ am y tro cyntaf ers misoedd, doeddwn i ddim yn disgwyl dod o hyd i mi fy hun – a miliynau o rai eraill ag ADHD – yn cael ein cymharu â Hitler. Nid yn unig y gwnaeth cartŵn, a gyhoeddwyd gan allfa wleidyddol adnabyddus, watwar y cyflwr ond awgrymodd, pe bai Hitler […]
Review Essay: A Wilderness of Unperishable Glory – Eluned Gramich

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Folding Rock
Mae Folding Rock yn gylchgrawn newydd sbon danlli. Cafodd ei sefydlu yn 2024 gan ddau olygydd oedd yn benderfynol i helpu rhoi Cymru ac ysgrifennu o Gymru ar fap y Deyrnas Unedig – a thu hwnt. Mae’n cyhoeddi’r rhyddiaith greadigol newydd orau: ffuglen, ffeithiol a phopeth yn y canol. Mae’r cylchgrawn yn arddangos gwaith cyffrous […]
Folding Rock Summer Party

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Branwen ferch Llŷr
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Llyfr Gwyn Rhydderch
Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich […]
Review: A Room Above a Shop (Granta, 2025) by Anthony Shapland

A. R Darland. Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
The Centre of Things

Mari Huws Jones Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Issue 001 Editorial

By Robert Harries and Kathryn Tann Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg. Continue reading here
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Mis Mai a Mis Tachwedd
‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Yr Wylan
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. […]
Gwaith Argoed Llwyfain
Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd […]
Marwnad Owain ab Urien
Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau […]
Canu Aneirin, Awdl 1
Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, […]
Llyfr Aneirin
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad […]
Canu Aneirin, Awdl 24
Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Aneirin gan Iwan Llwyd
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd
Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth […]
Yr Hen Iaith (Lefel A): Y Gŵr sydd ar y Gorwel gan Gerallt Lloyd Owen
Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y […]
Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn
Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro […]
Yr Hen Iaith (Lefel A): Podlediad ar gyfer Disgyblion Lefel A Cymraeg
Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall […]
Yr Hen Iaith (Lefel A): Un Nos Ola Leuad
Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Martha, Jac, a Sianco
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n […]
Hynt Yr Hen Iaith: neges ar gyfer ein dilynwyr
Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r […]
Pennod 62 – Hanesyddiaeth a Hunaniaeth: Drych y Prif Oesoedd

Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd […]
Lansiad: Cymry. Balch. Ifanc.

Tocynnau Am 19:30 ar 2ail Mawrth 2025, ymunwch gyda thîm ac ysgrifenwyr tu ôl cyfrol Cymry. Balch. Ifanc. am ddigwyddiad arbennig yn The Queer Emporium. Mae hyn yn ddigwyddiad iaith Gymraeg.
Pennod 61 – Taliesin yng Ngwlad Angau: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 2)
Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg […]
Cerdd Tafod Arall | Music of Another Tongue

Mae Cerdd Tafod Arall | Music of Another Tongue yn brosiect a arweinir gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. Fe heriodd ei hun a chwe bardd sy’n adnabyddus am eu defnydd arbrofol o iaith i ddysgu am y gynghanedd a’i defnyddio yn un o’u cerddi. Yn dilyn fflachwers ar y gynghanedd dan arweiniad Mererid Hopwood […]
Wales Book of the Year 2025 Judges Announcement

Er fod gwres Gorffennaf a chyffro’r haf yn teimlo’n bell i ffwrdd, mae paratoadau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025 ar y gweill ers misoedd. Mae ein paneli o feirniaid talentog wedi eu penodi, ac maent yn darllen yn ddiwyd, yn barod i gyhoeddi eu rhestrau byrion fis Mai. Heddiw rydym yn falch o […]