Ac yntau’n hogyn o sir Fôn, mae Richard Wyn Jones yn ebychu ar ddechrau’r bennod hon na chlywodd ‘un sill’ am y brodyr llengar hyn o’r Ynys pan oedd yn yr ysgol. Dyma gyfle felly i unioni’r cam wrth i ni drafod y pedwar brawd o Bentrerianell, Llanfihangel Tre’r Beirdd. Yn ogystal â Lewis, Richard, William a Siôn Morris, nodwn fod cylch ehangach y Morrisiaid yn cynnwys cymeriadau fel Evan Evans (Ieuan Fardd) a Goronwy Owen. Pwysleisiwn fod gan y Morrisiaid rychwant eang iawn o ddiddordebau, gan gynnwys y gwyddonol yn ogystal â’r llenyddol. Ac yn ogystal ag astudio hen lenyddiaeth eu gwlad, roedd rhai ohonynt yn ysgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth wreiddiol.
Edrychwn yn benodol ar gwpl o gerddi Lewis Morris wrth i ni drafod y modd yr aeth ati i ailwampio agweddau ar yr hen draddodiad barddol Cymraeg a gwneud cyfoeth yr hen oesau yn berthnasol mewn oes newydd. Cawn gyfle i ystyried ychydig o’i ryddiaith hefyd, sy’n fodd i werthfawrogi ymhellach ei hiwmor dychanol miniog. Rhaid picio draw i Lundain hefyd wrth egluro bod rhai o’r Morisiaid yn ei chanol hi pan sefydlodd y gymdeithas Gymreig ddylanwadol honno, y Cymmrodorion.