Archwilio Awto-Ethnograffedd trwy Fapiau, Ysgrifennu Creadigol a Collage
Hwylusydd: Myya Helm
28 TACHWEDD 2025
TRAMSHED TECH, CAERDYDD
2PM-4PM
Ble wnaethoch chi ddysgu am eich hanes? O lyfrau yn yr ysgol? Trwy straeon oedd yn cael eu hadrodd gartref? Neu oedd o’n cael ei rannu gyda chi gan eich cymuned?
Nod y gweithdy hwn ydy annog cyfranogwyr i feddwl, ysgrifennu, a chreu deunyddiau am eu bywydau a’u profiadau eu hunain mewn perthynas â hanes pobl Ddu Cymru (na glywsoch chi amdano’n bendant yn yr ysgol!). Trwy ddefnyddio mapiau, ysgrifennu creadigol, a collage, mae’r gweithdy hwn yn ceisio dyfnhau ein dealltwriaeth o’r
gorffennol, eich cysylltu chi gyda chi’ch hun, ac adeiladu naratif cynhwysol o hanes lleol ar gyfer y dyfodol. Does dim angen deunyddiau nac arbenigedd!
CYNULLEIDFA DARGED
Myfyrwyr, ymchwilwyr, addysgwyr, ymarferwyr, awduron, artistiaid ac aelodau o’r gymuned sydd eisiau dysgu rhywbeth newydd, archwilio eu creadigrwydd, a deall mwy am eu profiadau a’u barnau unigol mewn perthynas â hanes pobl Ddu Cymru.
AMCANION
Bydd cyfranogwyr yn ymgysylltu’n feirniadol â mapiau trwy eu canfyddiadau personol o le a hunaniaeth, yn defnyddio meddwl hanesyddol, yn ymarfer ysgrifennu creadigol myfyriol, ac yn creu collage myfyriol mewn grŵp.
Yn cael ei guradu gan KumbuKumbu, prosiect hanes a threftadaeth pobl ddu Cymru.
Gallwch gofrestru ar gyfer y gweithdy yma:
https://www.eventbrite.co.uk/e/workshop-seeing-yourself-in-history-tickets-1923564807119?utm-campaign=social&utm-content=attendeeshare&utm-medium=discovery&utm-term=listing&utm-source=cp&aff=ebdsshcopyurl