Mae’r STORI wedi’i chynllunio ar gyfer Dysgwyr Cymraeg Byddar a Niwroamrywiol.
Oes gen ti ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg? Wyt ti’n mwynhau ysgrifennu creadigol?
Mae STORI yn ddull ymlaciol, anffurfiol a chwareus o ddysgu Cymraeg, a thyfu mewn hyder wrth ddefnyddio Cymraeg ysgrifenedig yn dy fywyd bob dydd!
Yn The Place, Casnewydd, byddi di’n archwilio’r iaith Gymraeg drwy eiriau.
Cei ddysgu gam wrth gam, gan ddod ar draws geiriau newydd a ffyrdd newydd o ddefnyddio’r geiriau rwyt ti eisoes yn gyfarwydd â nhw.
Does dim angen profiad o’r iaith Gymraeg.
Bydd dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain / British Sign Language ar gael
Gan: Rachel Williams, Nez Parr, a Sophie Cockram
Dyddiadau: Ebrill 21ain, 28ain; Mai 5ed
Amser: 5:30yh – 6:30yh
Lleoliad: The Place, Casnewydd
Am ragor o wybodaeth, cwestiynau, neu i gofrestru am ebyst: Krystalslowe.contact@gmail.com