Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 81 – ‘Gwybodaeth yn amlhau’: Y Wasg Gyfnodol Gymraeg ar ddechrau’r 19eg Ganrif’

Llenyddiaeth

A ninnau wedi cyrraedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwn drafod rhai o’r trawsffurfiadau a effeithiai ar ddiwylliant Cymraeg y cyfnod. Diwydiannu, tŵf y boblogaeth, datblygiadau technolegol, balchder yn yr ymerodraeth Brydeinig – byddai’r holl ffactorau hyn yn cyflyru llenyddiaeth Gymraeg wrth i’r ganrif fynd rhagddi. Ond canolbwyntiwn yn y bennod hon ar un peth sydd o’r pwys mwyaf i’r rhai sydd am ddeall hanes llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef tŵf y wasg gyfnodol Gymraeg. (Ie, diffiniwn y gair ‘cyfnodolyn’ wrth fynd heibio hefyd.) Piciwn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif er mwyn nodi rhai o’r arbrofion cynnar, ond manylwn wedyn ar y cyfnodolion a ymddangosodd yn ystod degawdau cyntaf y ganrif newydd.

 

Craffwn ar y modd yr oedd golygyddion rhai o’r cylchgronau enwadol cyntaf yn cyflwyno’u cyhoeddiadau i’w darllenwyr a nodwn wrth fynd heibio fod gafael Prydeindod ac imperialaeth yn dyn arnynt er gwaethaf eu daliadau crefyddol honedig radicalaidd.

RHANNWCH