Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg.
Dyma fath cwbl newydd o ganu mawl! Craffwn ar un o’i emynau poblogaidd, gan sylwi ar y naws bersonol a’r iaith hygyrch ac awgrymu bod rhywbeth beiddgar yn y modd y defnyddiodd themâu a delweddaeth yr hen ganu serch i drafod cariad at Dduw. Trafodwn y persona a glywir yn llefaru yn y cyfansoddiad ac rydym yn canfod cyfuniad diddorol o’r personol-breifat a’r cymunedol-gyhoeddus yn y gwaith. Awgrymwn fod cyhoeddiadau Pantycelyn yn fodd i werthfawrogi twf y wasg argraffu Gymraeg ac ystyriwn seiliau materol ei yrfa lenyddol.