Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 63 – Dechrau Cyfnod Newydd: Y Diwygiad Methodistaidd

Llenyddiaeth
Jerry Hunter and Richard Wyn Jones recording a podcast

Croeso i gyfres 3 Yr Hen Iaith! Agorwn y gyfres newydd hon trwy drafod dechreuadau’r Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, mudiad a fyddai’n cael effaith anferthol ar y traddodiad llenyddol Cymraeg. Nodwn fod y mudiad crefyddol wedi dod i Gymru ar yr union adeg ag yr oedd yn troi’n fudiad trawsatlantig, gydag un o’r arweinwyr Seisnig, George Whiftield, yn cael ei gofio gan rai fel ‘tad ysbrydol America’ (er ei fod yn ddyn drwg iawn ym marn Jerry Hunter!).

Yn arwyddocaol iawn o safbwynt llenyddiaeth, roedd gwedd lythrennog iawn ar Fethodistiaeth Gymreig gynnar; er nad aeth yr un ohonynt i brifysgol, roedd yr arweinwyr cynnar – Hywel (neu Howell) Harris, Daniel Rowland a William Williams Pantycelyn – wedi derbyn addysg safonol iawn. Gwyddom lawer am Howell Harris gan ei fod yn ysgrifennu cymaint – mae agos at 300 o’i ddyddiaduron a llawer o’i lythyrau personol wedi goroesi hefyd. Un o gefnogwyr Cymreig cynnar y diwygiad oedd Griffith Jones, Llandowror – dyn a wnaeth lawer i hyrwyddo llythrennedd trwy sefydlu’i rwydwaith o ysgolion. Wrth drafod trefniadau ymarferol y Methodistiaid cynnar – y seiat a’r sasiwn – awgrymwn fod y rhwydweithiau crefyddol hyn hefyd yn creu cymuned o ddarllenwyr a ‘derbynwyr llenyddiaeth’.

RHANNWCH