Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd ddramatig ar y gerdd wrth i’r bardd ail-greu sgwrs cyn y frwydr rhwng Owain a Fflamddwyn, arweinydd yr Eingl Sacsoniaid. Nodwn fod y gerdd waedlyd hon hefyd yn hoelio sylw ar swyddogaeth y bardd ei hun.