Cartref digidol diwylliant Cymru.

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Aneirin gan Iwan Llwyd

Llenyddiaeth

Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr.
Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â swyddogaeth y bardd Cymraeg trwy’r oesau. Eglurwn y cyd-destun hanesyddol a’r berthynas rhwng y math o newyddion a welid ar y teledu pan oedd Iwan Llwyd yn ifanc a chynnwys y gerdd hon.

RHANNWCH