Lansiad ‘O Ffrwyth y Gangen Hon’

Bydd lansiad ‘O Ffrwyth y Gangen Hon’ yn cael ei gynnal yn Queer Emporium, Caerdydd ar Fawrth 20th am 7yh. Cerddi am orfoledd – dyma oedd yr alwad agored i “feirdd benywaidd o bob cefndir” flwyddyn yn ôl. A dyma’r flodeugerdd wedi dwyn ffrwyth, gyda chyfraniadau gan leisiau cyfarwydd a lleisiau newydd sbon. O gerddi […]
Sut i Ddarllen: Manon Steffan Ros
Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos. Mae hi hefyd yn caru darllen. Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T. H. Parry Williams yn y car, […]
Pennod 60 – ‘Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 1)
‘On one fair afternoon during a warm long golden summer’: The Visions of the Sleeping Bard (1) Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd […]
Band tribute Tony Blair

Yng ngeiriau enwog Karl Marx, ‘mae hanes yn ei ailadrodd ei hun – y tro cyntaf ar ffurf trasiedi a’r ail dro fel ffars’, ac yn y goleuni hwnnw y gwêl ein colofnydd lywodraeth bresennol Keir Starmer wrth i afael meddylfryd ‘Llafur Newydd’ Tony Blair arni ddod yn gwbl amlwg.
Archif presents… Lowri Hedd Vaughan
Y bardd ac ysgrifennwr Lowri Hedd Vaughan yn trafod ei hymarfer creadigol a’i chysylltiad gyda natur. Mae hi’n rhannu adlewyrchiadau mwyn am ei hysgrifennu, yn gwehyddu ei gwerthfawrogiad tyfn o’r byd naturiol yn Gymraeg.
Sara Yassine
Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og. Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun. Recordiwyd y bennod yn Tramshed […]
Y Bennod Hyfryd

Colli hyder wrth sgwennu neu ddiffyg hyder wrth sgwennu yw thema’r podlediad. Fel arfer mi ydyn ni’n mynd lawr llwybrau arall ac yn trafod pob dim dan haul. Rhybudd: Mae’r bennod hon llawn hyfrydwch! Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau hyfryd a drafodwyd yn y bennod: Nelan a Bo – Angharad Price V a Fo – […]
Sut i Ddarllen: Kayley Roberts
Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, mae Kayley a Francesca yn trafod y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Ellis y versatile king, a pheidio sbïo ar dy ffon pam ti’n darllen. Recordiwyd y bennod yn Y […]
Pennod 59 – Mae’r Ysgrifbin yn Rymusach na’r Cleddyf
Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn […]
Folding Rock: The Launch Party

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Folding Rock 1: Roots

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Sut i Ddarllen
Sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen gyda Francesca Sciarrillo. Fe fyddwn ni’n trafod pob math o agweddau ar ddarllen. O’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny efo gwesteion difyr. Felly ymunwch â ni. Sut i Ddarllen, podlediad newydd, ar gael yn fuan.
Sut i Ddarllen

Sut i Ddarllen, sgyrsiau onest a dadlennol am ddarllen. Mewn podlediad newydd, fe fydd Francesca Sciarrillo yn trafod pob math o agweddau ar ddarllen – o’i ddylanwad i’w effaith ar ein bywydau bob dydd. Yn rhannu atgofion ac argymhellion, rhinweddau a rhwystredigaethau a hynny gyda gwesteion difyr. Felly ymunwch â ni.
Lucent Dreaming

Mae Lucent Dreaming yn gylchgrawn annibynol ar gyfer ysgrifennwyr newydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd.
Y ddrama ddinistriol

Fe gyhoeddir yn y rhifyn hwn o BARN lythyr agored ynghylch mater Medal Ddrama 2024. Nid wyf yn sicr pam mai llythyr at Lys yr Eisteddfod Genedlaethol a Gorsedd y Beirdd ydyw (yn hytrach nag at Fwrdd yr Ymddiriedolwyr a wnaeth y penderfyniad i atal y gystadleuaeth) ac nid wyf o’r farn chwaith fod crybwyll […]
Pennodau 58 – ‘Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd’: Morgan Llwyd rhan 3
Yn y bennod hon ystyriwn dau lyfr a gyhoeddwyd gan Morgan Llwyd yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan ddechrau â Gwyddor Uchod, cerdd hir sy’n trafod y sêr a’r planedau, gan gyfuno gwyddoniaeth a chyfriniaeth Gristnogol. Rydym ni’n diffinio ‘cyfriniaeth’ hefyd wrth fynd heibio a nodi’i bod yn ffenomen a geir mewn gwahanol grefyddau ar […]
Pwy Sy’n Gwrando?

Pennod gyntaf 2025 o’ch hoff bodlediad llyfrau, mae’n bennod gyntaf Colli’r Plot hefyd ac yr ydym yn barod i drafod llwyth o lyfrau a phob dim arall dan haul. Mae’n dod i’r amlwg pwy sy’n gwrando ar bwy ar bodlediad Colli’r Plot. Diffyg hyder neu golli hyder wrth sgwennu yw pwnc y bennod yma, ond […]
Sesiwn Llanerch Eisteddfod 2019
Sesiwn wedi ei drefnu gan meddwl.org yn trafod perfformio a iechyd meddwl yn Eisteddfod 2019. Yn siarad mae Gruff Jones, Non Parry a Sophie Ann.
Cerdded Rhaff
Cerdd a gyfansoddwyd yn rhan o #Her100Cerdd 2017 ar gais meddwl.org.
Bardd: Iestyn Tyne
Pennod 57 – Tri Aderyn a Dau Fyd: Morgan Llwyd rhan 2
A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’ Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill […]
Creu Diwylliannau Gwaith Gofalgar

Mae gofal yn gysyniad rydyn ni i gyd yn ei adnabod yn dda. Efallai bod gennym ni anwyliaid sy’n dibynnu ar ofal proffesiynol, yn gofalu am ein hanifeiliaid anwes, ffrindiau, neu’r blaned, ac yn gynyddol, rydyn ni’n cael ein hannog i flaenoriaethu hunanofal. Ond sut olwg sydd ar ofal yng nghyd-destun gwaith? Ac a yw’r […]
Planet presents an evening at Y Cŵps!

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Pennod 56 – ‘O Bobl Cymru! Atoch chi y mae fy llais!’: Morgan Llwyd rhan 1
The story of our storytelling commons, our People’s Newsroom

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Pennod 55 – Barddoniaeth y Brenhinwyr
Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw. Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi […]
What is a storytelling commons – and why is it so hard to talk about?

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Gift Guide: Best Fiction of 2024

Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Chwilio am anrhegion Nadolig? – Nofelau Ffantasi

Bu’n flwyddyn arbennig i unrhyw un sy’n mwynhau nofelau gydag elfen o ffantasi. Dyma chwe cyfrol a fyddai’n gwneud anrhegion gwych. Madws gan Sioned Wyn Roberts (Gwasg y Bwthyn) Yn 1752 newidiodd y calendr a chollodd pawb un ar ddeg diwrnod. Pawb heblaw am Martha. Ac mae’r hyn a ddigwyddodd i Martha yn ystod y […]
Rhifyn 2 prynwch nawr!

Mae Rhifyn 2 nawr ar gael i’w brynu o’r ddolen yma.
CWYR Issue 1 DE-VICES
Gyflwyno CWYR rhifyn 1: DE-VICES sy’n cynnwys gwaith gan naw artist cwiar, mae’r rhifyn hwn yn ceisio darparu archwiliad i’r ffordd y mae folx cwiar yn rhyngweithio â thechnolegau digidol, yn eu defnyddio ac yn eu gwrthsefyll.
CWYR rhifyn 2 yn cael ei ryddhau heddiw 🔊

Oyez, oyez! CWYR rhifyn 2 yn cael ei ryddhau heddiw 🔊 Gan gyflwyno gwledd o greadigrwydd queer, archwilir cyflawniad mewn detholusrwydd. Wedi’i gynnwys o fewn 44 o dudalennau wedi’u hailgylchu, barddoniaeth gelwydd, ffotograffiaeth ac ysgrifennu ar yr Oesoedd Tywyll 🕯️ Wedi’i argraffu a’i rwymo gan @folium_publishing, cwblheir y clawr gyda gorffeniad powdr thermo arian. Ar […]
CWYR Issue 2 Launch
CWYR ISSUE 2 LAUNCH: FULFILMENT Mynnwch eich dyddiadur allan oherwydd rydym yn lansio ail rifyn CWYR ar ddydd Gwener 13eg Rhagfyr! Ymunwch â ni o 6:30PM @rare_mags i fwynhau ein rhifyn diweddaraf, yn ffres oddi ar y wasg (bach). Drop by to grab a copy of the fulfilment issue and listen to tunes mixed by […]
Hi 👋 We’re Hannah and Ella, the co-founders of CWYR

Mae rhifyn 2 CWYR ar ei ffordd! Ond cyn rhyddhau ein hail rifyn ym mis Rhagfyr, roedden ni’n meddwl ei bod hi’n hen bryd cyflwyno’r queers y tu ôl i CWYR.
RHIFYN 2 LANSIO CYFLAWNIAD
Mynnwch eich dyddiadur allan oherwydd rydym yn lansio ail rifyn CWYR ar ddydd Gwener 13eg o Ragfyr! Ymunwch â ni o 6:30pm yn Rare Mags i fwynhau ein rhifyn diweddaraf, yn ffres oddi ar y wasg (bach).
Lansiad ‘Salem a Fi’
Recordiad o sgwrs Huw Stephens gydag Endaf Emlyn o lansiad ei hunangofiant ‘Salem a Fi’ yn Kings Road Yard, Pontcanna. Prynwch yma. Mae’r gyfrol yn olrhain lle’r darlun eiconig gan Curnow Vosper yn ei fywyd, gan gychwyn gyda’i fagwraeth ym Mhwllheli, ac ymlaen i’r newidiadau mawr ddaeth yng Nghymru dros y degawdau yn sgil sefydlu […]
Pennod 54 – ‘Y ddaear a grynodd’: cyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg y ‘Rhyfeloedd Cartref’
Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I.
Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn y modd y dioddefodd un bardd Cymraeg oherwydd ei ymlyniad gwleidyddol a chrefyddol. Ond er bod llawer o destunau Cymraeg sy’n tystio i ymwneud y Cymry â’r gwrthdaro a’r trais, edrychwn hefyd ar enghraifft sy’n ein hatgoffa nad ar chwarae bach y mae cymryd llenyddiaeth fel ffynhonnell hanesyddol ddibynadwy.
Mae’r Fflag i Fyny

Ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, dyma flog am yr iteriad diweddaraf o’r Fflag Cynnydd Balchder a ddyluniwyd gan ein Swyddog Hyfforddiant a Chyllido Rachel Stelmach.
Mae Rachel wedi ysgrifennu am hanes y fflag a’i dyluniad newydd sy’n cynnwys pobl anabl.
CWYR Zine

Mae CWYR yn gyhoeddiad annibynnol sy’n rhoi llwyfan i bobl greadigol LHDTC+. Mae pob rhifyn yn archwilio thema ganolog trwy lens cwiar, gan ddefnyddio ffuglen, barddoniaeth, cyfweliadau, a gweithiau celf i roi mewnwelediad unigryw i brofiadau folx cwiar.
Chwilio am anrhegion Nadolig?

Dyma ambell gyfrol fyddai’n gwneud anrhegion Nadolig gwych.
Bwrdd 21: BBOSSing it yng Ngwobrau Cyfryngau Cymru

Sedd wrth y Bwrdd: Mae Miguela Gonzalez n myfyrio ar ei phrofiad ng Ngwobrau Cyfryngau Cymru 2024, a pham mae cynrychiolaeth yn bwysig.
Gororau: Ar gyfyngoldeb, niwroamrywiaeth ac ysgrifennu

Mae Emily Wilkinson yn plethu themâu o hunaniaeth, creadigrwydd, niwroamrywiaeth, a dod o hyd i gysur ym myd natur
Partneriaeth gyda QueerAF: Pam na ddylai cynrychiolaeth cwiar mewn chwaraeon deimlo fel ymdrech Herculean

Partneriaeth gyda QueerAF: Pam na ddylai cynrychiolaeth cwiar mewn chwaraeon deimlo fel ymdrech Herculean
Llyfrau’r Gaeaf

Chwilio am anrhegion Nadolig?
Mae Llyfrau’r Gaeaf, blas o’r llyfrau gwych o Gymru fydd ar gael dros y misoedd nesaf, ar gael nawr.
Galwch draw i’ch siop lyfrau leol i dderbyn eich copi yn rhad ac am ddim neu porwch y catalog yma!
Argyfwng Y Byd Llyfrau
Croeso i bennod arall o Colli’r Plot.
Yn y rhifyn yma da ni’n trafod yr argyfwng yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg, pa mor hyfryd ydy Cymdeithas Gymraeg y Bermo a thrafod yr yrfa ddisglair sydd o flaen yr awdur Kate Roberts, sydd wirioneddol yn anhygoel.
Mae ‘na lot o chwerthin, ‘chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.
Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:
Lwmp – Rhian Wyn Griffiths
Meirw Byw – Rolant Tomos
Laura Jones – Kate Roberts
Lladron y Dyfnfor – Gruffudd Roberts
Meirw Byw – Rolant Tomos
Gwaddol – Rhian Cadwaladr
Letting Go – Wil Gritten
Friends of Dorothy – Sandi Toksvig
Nala’s World: One man, his rescue cat and a bike ride around the globe – Dean Nicholson
Tadwlad – Ioan Kidd
The Power of one – Bryce Courtenay
Disgyblion B – Rhiannon Lloyd
Elin a’r Felin – Richard Holt
Pennod 53 – Pechod yn Llanymddyfri: Y Ficer Prichard
Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol.
Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan sicrhau bod ‘y Ficer Prichard’ ymysg beirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus y cyfnod cyn 1800. Ond i’n tyb ni, y peth mwyaf diddorol am y bardd hwn yw’r modd y cafodd Rhys Prichard ei wneud yn rhan o olyniaeth lenyddol y Piwritaniaid Cymraeg; o edrych o’r newydd am y dystiolaeth am fywyd a’i ddaliadau’i hun, casglwn ei fod ar y pegwn arall i’r Piwritaniaid a ymladdai yn erbyn y brenin mewn gwirionedd. Dyma felly enghraifft drawiadol o lenyddiaeth wedi’i chymryd allan o’i chyd-destun gwreiddiol a’i defnyddio at ddibenion hollol wahanol.
Beyond/Tu Hwnt – Ffilm
Prynwch eich copi o ‘Beyond/Tu Hwnt’ nawr! Mae AM yn falch o fod wedi cyd-gynhyrchu ffilm arbennig gyda Lucent Dreaming i ddathlu ‘Beyond/Tu Hwnt’, sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae ‘Beyond/Tu Hwnt’ yn flodeugerdd ddwyieithog, wedi’i olygu gan Bethany Handley, Megan Angharad Hunter a Sioned Erin Hughes, yn cynnwys gwaith gan 31 o […]
Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2024

I ddathlu a chydnabod cyfraniad darlunwyr a dylunwyr a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw, mae Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru wedi dewis 8 clawr llyfr o Gymru sydd yn eu barn nhw yn haeddu’r teitl Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2024.
Bydd dylunydd/darlunydd y cloriau buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.
Speak Back

Mae ’Speak Back’ yn gwrs preswyl 5 diwrnod ar gyfer beirdd ac artistiaid perfformiadol. Ar gyfer y cyfle hwn, rydym yn croesawu ceisiadau gan feirdd ac artistiaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru, ac mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’r awduron llwyddiannus.
Dyddiadau’r Cwrs: Dydd Llun 3 Mawrth – Dydd Gwener 7 Mawrth 2025.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024.
Bydd yr wythnos yn archwilio themâu hunaniaeth, argyfwng hinsawdd, cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. Y tiwtoriaid yw Taylor Edmonds a Kandace Siobhan Walker.
Mae ‘Speak Back’ yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Sefydliad Foyle.
Sut i wneud cais – https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/speak-back/speak-back-sut-i-wneud-cais/
Cymhwysedd a Chwestiynau cyffredin – https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/speak-back/speak-back-cymhwysedd-a-chwestiynau-cyffredin/