Cartref digidol diwylliant Cymru.

Partneriaeth QueerAF: Cyfleoedd i awduron LHDTQIA+ o Gymru sydd ar ddechrau eu gyrfa

Llenyddiaeth
Yellow image with QUEER AF and Inclusive Journalism logos

Yn dilyn llwyddiant ein cyfres ddiwethaf o gomisiynau, rydym yn partneru â Queer AF ar gyfer carfan arall o fentora. Byddant yn cynnal cyfres bwrpasol o ddarnau meddwl fel rhan o gynllun ysgrifennu nodedig QueerAF, Queer Gaze. A gallech chi fod yn un o’r awduron llwyddiannus.

 

Y cyfle

Bydd tri newyddiadurwr LHDTCIA+ o Gymru, sydd ar ddechrau eu gyrfa, heb eu cyhoeddi ac wedi’u hymylu, yn cael eu dewis i:

  • Ysgrifennu tair comisiwn QueerAF – darnau meddwl 500–700 gair dros dri mis, gan ddefnyddio’r fformat Queer Gaze – pob un yn talu £100. Meddyliwch amdano fel colofn fach.
  • Derbyn golygu ‘ôl-weithredol’ nodweddiadol QueerAF ar ôl pob darn – gan eich helpu i ddeall y broses olygu a datblygu eich llais a’ch crefft.
  • Adeiladu eich portffolio gyda chynnwys a welir ar draws llwyfannau QueerAF a Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru.
  • Ymuno â dwy sesiwn mentora cyfoedion i hogi eich ysgrifennu a dyfnhau eich dealltwriaeth o ddarnau meddwl.

 

Beth yw QueerAF?

Gan ganolbwyntio ar y byd LHDTCIA+, mae QueerAF yn cefnogi creadigwyr cwiar i newid y cyfryngau. Maent yn blatfform annibynnol gwobrwyog sy’n lansio gyrfaoedd creadigwyr LHDTCIA+ sy’n dod i’r amlwg ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, wedi’u gyrru gan bobl, nid hysbysebwyr.

Yn y pen draw, mae QueerAF yn blatfform lle gall crewyr, newyddiadurwyr a chynhyrchwyr gael eu talu a’u comisiynu’n uniongyrchol gan gymuned QueerAF. Tra byddant yn eich mentora i adeiladu gyrfa, gweithio yn y diwydiant – ac yna ei newid.

Beth am Queer Gaze?

Mae ‘The Queer Gaze’ yn lle yng nghylchlythyr QueerAF i gomisiynu pobl greadigol cwiar sy’n dod i’r amlwg ac sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fel y gallant gael eu cyhoeddi, derbyn mentora ac yn y pen draw, cychwyn ac adeiladu eu gyrfa ysgrifennu.

Mae’r Queer Gaze yn rhoi cipolwg sy’n agor llygaid i ddarllenwyr ar y profiadau a’r safbwyntiau yn ein cymuned nad ydyn nhw efallai wedi dod ar eu traws o’r blaen.

Wedi hynny, mae cynulleidfaoedd yn teimlo’n chwilfrydig, yn cael eu cyflwyno i safbwyntiau newydd ac yn cael eu hysbrydoli i ddarllen mwy.

Mae’n un rhan o’u cylchlythyr wythnosol sy’n helpu pobl LHDTCIA+ i ddeall y newyddion, y cynnwys a’r safbwyntiau cwiar diweddaraf.

Enghreifftiau o garfan o fenteeion y llynedd.

Gwych – sut ydw i’n gwneud cais?

Mae’n syml. Yn gyntaf:

  • Darllenwch y briff manwl ar gyfer y Queer Gaze. Mae’n hanfodol eich bod chi’n deall y cysyniad ac wedi darllen sawl enghraifft flaenorol.
  • Gwiriwch y dyddiadau allweddol: Gwnewch yn siŵr y byddwch chi’n gallu ymrwymo i’r cyfle.
  • Edrychwch ar ganllawiau cyfranwyr QueerAF – bydd angen i chi gytuno â nhw i gymryd rhan.
  • Ysgrifennwch eich cyflwyniad cyntaf: I wneud cais am y cynllun, does ond angen i chi gyflwyno beth fyddai eich erthygl gyntaf amdano.

 

Efallai nad yr erthygl hon fydd yr hyn y byddwch chi’n ei ysgrifennu yn y cynllun yn dibynnu ar ba mor amserol ydyw, ond bydd yn rhoi gwybod i ni a ydych chi’n deall y dasg dan sylw.

Byddwch yn barod i roi pennawd i ni, eich stori mewn tair pwynt bwled, a pha dair ffynhonnell y byddwch chi’n eu defnyddio i gefnogi eich darn meddwl.

Gofynnir i chi hefyd roi rhai manylion amdanoch chi’ch hun a’ch profiad blaenorol.

 

Dyddiadau allweddol

  • Y dyddiad cau i wneud cais yw Gorffenaf 9 11:59pm.
  • Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus erbyn Gorffennaf 22
  • Cynhelir y sesiwn hyfforddi gyntaf yn ystod yr wythnos sy’n dechrau Gorffennaf 28 am naill ai 12-1pm, neu 5-6pm yn dibynnu ar argaeledd.
  • Bydd comisiynau’n dechrau ym mis Awst.

 

Gwnewch yn siŵr bod gennych chi argaeledd cyn gwneud cais.

Gwnewch gais yma. Pob hwyl gyda’r cyflwyniad!

 

 

RHANNWCH