Cartref digidol diwylliant Cymru.

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Mis Mai a Mis Tachwedd

Llenyddiaeth

‘Mis Mai a Mis Tachwedd’

Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo dechrau haf – tymor sy’n caniatáu iddo gyfarfod â’i gariad(on). Craffwn ar y modd y mae Dafydd yn personoli mis Mai ac awgrymu’i fod yn defnyddio rhai o nodweddion y canu mawl, gan wneud yr elfennau traddodiadol hyn yn rhan o’i gyfansoddiad gwreiddiol ef.

RHANNWCH