Yr Hen Iaith (Lefel A) – Llyfr Gwyn Rhydderch
Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich […]
Anthony Shapland in conversation with Ffion Rhys
Liar Liar – Anthony Shapland in conversation about his exhibition at Aberystwyth Arts Centre
Issue 001 Editorial

By Robert Harries and Kathryn Tann Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg. Continue reading here
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Mis Mai a Mis Tachwedd
‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Yr Wylan
Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. […]
Gwaith Argoed Llwyfain
Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd […]
Marwnad Owain ab Urien
Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau […]
Morriston Comprehensive Teachers Discuss Hot Chicks at Swansea Grand Theatre
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Canu Aneirin, Awdl 1
Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, […]
Llyfr Aneirin
Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad […]
Canu Aneirin, Awdl 24
Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr […]
Sesiwn Gŵyl Tawe – Mali Hâf
Mae Menter Iaith Abertawe yn lansio cyfres o sesiynau byw ar gyfer Gŵyl Tawe, sy’n cynnwys artistiaid o’r ŵyl mewn lleoliadau amrywiol ar draws Abertawe. Sesiwn 2 – Mali Hâf o Arena Abertawe
Hot Chicks – Rebecca Jade Hammond (Hysbyseb)
People Speak Up – Who we are and what we do!
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Aneirin gan Iwan Llwyd
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd
Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth […]
Yr Hen Iaith (Lefel A): Y Gŵr sydd ar y Gorwel gan Gerallt Lloyd Owen
Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y […]
Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn
Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro […]
Aleighcia Scott – Dod o’r Galon
Rhan o gronfa fideos Lŵp x PYST.
Yr Hen Iaith (Lefel A): Podlediad ar gyfer Disgyblion Lefel A Cymraeg
Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall […]
Yr Hen Iaith (Lefel A): Un Nos Ola Leuad
Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a […]
Yr Hen Iaith (Lefel A) – Martha, Jac, a Sianco
Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig. Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n […]
Hynt Yr Hen Iaith: neges ar gyfer ein dilynwyr
Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r […]
Pennod 62 – Hanesyddiaeth a Hunaniaeth: Drych y Prif Oesoedd

Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd […]
Pennod 61 – Taliesin yng Ngwlad Angau: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 2)
Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg […]
Cartrefi sy’n Nofio – Hanan Issa

Mae cerdd fideo newydd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru yn ddarlun ingol o ddyfodol Cymru yn sgil yr argyfwng hinsawdd. Wedi ei chyffwrdd gan straeon am effaith llifogydd ym Mhontypridd wedi stormydd Dennis a Bert, cydweithiodd Hanan Issa gyda’r gwneuthurwr ffilm Ruslan Pilyarov i gyfleu’r sefyllfa yn yr ardal trwy gerdd fideo. Comisiynwyd ‘Homes that […]
Joe Healy
Yn wreiddiol o Wimbledon, fe enillodd Joe Healy wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2022. Bellach mae’n diwtor Cymraeg yng Nghaerdydd ac yn cyflwyno rhaglen Y Sin ar S4C gyda Francesca. Bu’r ddau yn trafod darllen llyfrau Cymraeg am y tro cyntaf, dod yn nol at ddarllen, a pheidio bod ofn barddoniaeth. Recordiwyd y bennod yn […]
Syched Cas – Dewin
Fideo i sengl Dewin ‘Syched Cas’ Cyfarwyddo a golygu gan Lleucu Elisa. Ariannwyd gan gronfa fideos PYST x Lŵp © Fflach Cymunedol 2025
Sesiwn Gŵyl Tawe – Los Blancos
Mae Menter Iaith Abertawe yn lansio cyfres o sesiynau byw ar gyfer Gŵyl Tawe, sy’n cynnwys artistiaid o’r ŵyl mewn lleoliadau amrywiol ar draws Abertawe. Sesiwn 1 – Los Blancos o’r Swansea Grand Theatre Cyfarwyddo a Golygu – Owain Jones Camera a Grade – Aled Victor VHS – Sam Stevens (sam.ffoto) Sain – Graham Morse
Wynnes
Mae Criw yn y Manod yn ceisio perchnogi’r Wynnes, maent wedi bod yn gweithio ar codi ymwybyddiaeth i’r ymgyrch yn ogystal a ceisio cael cynllun Busnes a Cynllun siars, a cael cychwyn ar y gwaith o prisio cynllunio cyn mynd ati i geisio prynnu’r dafarn.
New episodes of LARYNX LOADED!
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Sut i Ddarllen: Manon Steffan Ros
Manon Steffan Ros yw un o’n hawduron mwyaf poblogaidd. Mae ei nofel Llyfr Glas Nebo wedi swyno darllenwyr ym mhell ac agos. Mae hi hefyd yn caru darllen. Bu Francesca a Manon yn sgwrsio am sut mae darllen yn gwneud i ni deimlo, pam cadw copi o waith T. H. Parry Williams yn y car, […]
Archif presents… Doggy LeBosch
I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae Gwenno yn dogfennu’r cerddor canu gwlad o Lanfairfechan, Doggy LeBosch.
Coron Moron – Cawl
Coron Moron – Cawl
Pennod 60 – ‘Ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog’: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 1)
‘On one fair afternoon during a warm long golden summer’: The Visions of the Sleeping Bard (1) Dyma ni’n dathlu recordio trigeinfed bennod y podlediad trwy drafod un o glasuron Cymraeg y cyfnod modern cynnar, Gweledigaethau’r Bardd Cwsg, llyfr a gyhoeddwyd gan Ellis Wynne yn 1703. Er bod y gwaith rhyfeddol hwn ar un wedd […]
Archif presents… John Till
Gwenno Till yn dogfennu ei thad, John Till, wrth iddo greu bagl bugail. Ydych chi erioed wedi stopio i ystyried sut maen nhw’n cael eu gwneud, a pham?
Archif presents… Lowri Hedd Vaughan
Y bardd ac ysgrifennwr Lowri Hedd Vaughan yn trafod ei hymarfer creadigol a’i chysylltiad gyda natur. Mae hi’n rhannu adlewyrchiadau mwyn am ei hysgrifennu, yn gwehyddu ei gwerthfawrogiad tyfn o’r byd naturiol yn Gymraeg.
Sara Yassine
Mae Sara Yassine yn byw yng Nghaerdydd, ac wedi bod yn un o feirniaid gwobrau llyfrau plant a phobl ifanc Tir na n-Og. Bu Francesca a Sara yn sgwrsio am adolygu llyfrau Enid Blyton, dychwelyd at ddarllen llyfrau Cymraeg a manteision ac anfanteision gosod nod darllen i ti dy hun. Recordiwyd y bennod yn Tramshed […]
gwyw – albwm gan gwenno morgan

ffilm fer 4 rhan gan Owain Jones // a 4-part short film by Owain Jones. Diolch yn fawr i Grona Fideos PYST x Lwp am ariannu’r prosiect. listen to ‘gwyw’.
Sut i Ddarllen: Kayley Roberts
Mae Kayley Roberts yn gwnselydd ac yn llenor sy’n byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn aelod o Glwb Darllen Llyfrau Lliwgar, mae Kayley a Francesca yn trafod y pleser o drafod llyfrau efo criw, Islwyn Ffowc Ellis y versatile king, a pheidio sbïo ar dy ffon pam ti’n darllen. Recordiwyd y bennod yn Y […]
Candelas – Y Gyllell Lemon
Ers rhyddhau eu EP cyntaf bron i bymtheg mlynedd yn ôl yn 2011 mae Candelas wedi parhau i’n diddanu gyda 3 albym amrywiol a’u henw yn dal i weld ar line-ups mwyaf y calendr Cymreig. Mae hwn yn fideo arbennig wedi ei gyfarwyddo gan y cerddor Dafydd Owain ar gyfer trac newydd fydd yn ymddangos […]
Pennod 59 – Mae’r Ysgrifbin yn Rymusach na’r Cleddyf
Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn […]
Watch Africa Presents: Milisuthando
Mae’r cynnwys yma yn uniaith Saesneg.
Emma Davies-Warhurst – I’r Nefoedd
SENGL GYNTAF EMMA DAVIES-WARHURST Mae Cystadleuaeth Band/Artist Unigol Blwyddyn 7-13 Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd bob blwyddyn fel rhan o Ŵyl Triban. Y llynedd, yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, Emma Davies-Warhurst o Ysgol Uwchradd Aberteifi ddaeth i’r brig gyda’i chân gwreiddiol, ‘I’r Nefoedd’. Mae Emma yn hen […]