Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn.
Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y gerdd fodern hon yn amlygu rhai agweddau hynafol ar y traddodiad barddol Cymraeg.