Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd yn ddiweddarach, a dyma’r fersiwn sy’n cael ei ystyried yn glasur. Ystyr y gair ‘prif’ yn y teitl yw ‘cynharaf’; dyma lyfr sy’n trafod hanes cynnar y Cymry – neu’r Hen Frytaniaid – ac mae’n adrodd yr hanes hwnnw mewn dull storïol cyffrous. O ran hanes rhyddiaith Gymraeg, mae’n anodd meddwl am lyfr unigol pwysicaf a gyhoeddwyd rhwng dechrau’r 18fed ganrif a datblygiad y nofel Gymraeg dros ganrif yn ddiweddarach. Mae hefyd yn hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth Gymreig; dyma lyfr sy’n defnyddio hanes i ddweud wrth y Cymry pwy ydynt.
Noder: Ni fydd Yr Hen Iaith yn cysgu! Daw neges yn fuan iawn am gyfres arbennig a ddarlledir rhwng diwedd y gyfres hon a dechrau cyfres 3.