Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur.
Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall yn awyddus i ddysgu mwy, a’r ddau’n cael llawer o hwyl wrth graffu ar rai o drysorau llenyddol pwysicaf Cymru. Bydd penodau sy’n canolbwyntio ar y nofelau Un Nos Ola Leuad a Martha, Jac a Sianco yn cael eu rhyddhau yn ystod y dyddiau nesaf (gan fod yr arholiadau perthnasol yn dechrau’n fuan). Byddwn ni’n rhyddhau’r penodau eraill yn fuan wedyn, gan gynnwys rhai sy’n canolbwyntio ar y pynciau hyn: Canu Aneirin, Canu Taliesin, cywyddau Dafydd ap Gwilym, a detholiad o gerddi modern. Mwynhewch!