Cartref digidol diwylliant Cymru.

Hynt Yr Hen Iaith: neges ar gyfer ein dilynwyr

Llenyddiaeth

Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A.

Mae’r gyfres fer hon yn canolbwyntio ar destunau sydd ar y sylabws lefel A Cymraeg, ond mae’n debyg iawn y byddwch chi, ein dilynwyr presennol, yn eu mwynhau hefyd. (Yn wir, mae wedi bod yn fodd i ni lenwi ambell fwlch a adwyd gennym yng Nghyfres 1). Dechreuir rhyddhau’r gyfres arbennig hon yn syth, felly os ydych chi’n nabod rhywun sy’n astudio Cymraeg lefel A neu os ydych chi’n nabod athrawes neu athro lefel A Cymraeg, gadewch iddynt wybod. Ac ar ôl i ni orffen rhyddhau’r Hen Iaith (Lefel A), ac ar ôl i ni gael cyfle i ddal ein hanadl, bydd yr hen Hen Iaith arferol yn dychwelyd gyda Chyfres 3. Diolch am eich cefnogaeth!

RHANNWCH