Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y Bennod Hyfryd

Colli hyder wrth sgwennu neu ddiffyg hyder wrth sgwennu yw thema’r podlediad. Fel arfer mi ydyn ni’n mynd lawr llwybrau arall ac yn trafod pob dim dan haul. Rhybudd: Mae’r bennod hon llawn hyfrydwch! Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau hyfryd a drafodwyd yn y bennod: Nelan a Bo – Angharad Price V a Fo – […]

Pennod 59 – Mae’r Ysgrifbin yn Rymusach na’r Cleddyf

Edrychwn yn y bennod hon ar lendyddiaeth Gymraeg ar ddwy ochr y rhwyg ideolegol ar ôl i’r rhyfeloedd rhwng y Senedd a’r Brenin ddod i ben. Cewch glywed Rolant Fychan yn cyfaddef na lwyddodd gyda’i ‘gleddyf coch’ i ladd bygythiadau radicalaidd i’r drefn yn ystod y rhyfeloedd, ac yntau’n ceisio gwneud fel awdur yr hyn […]

Y Lle Dda | The Good Place Festival 2025

Y Lle Dda 21 – 23 /03/25 Dinbych y Pysgod  Tocynnau ar werth YMA  Y Lle Da | The Good Place is a brand-new, inclusive multi-arts festival that will make its debut in the picturesque medieval seaside town of Tenby, Pembrokeshire, from Friday 21 to Sunday 23 March 2025. The festival aims to celebrate the vibrant […]

Pwy Sy’n Gwrando?

Pennod gyntaf 2025 o’ch hoff bodlediad llyfrau, mae’n bennod gyntaf Colli’r Plot hefyd ac yr ydym yn barod i drafod llwyth o lyfrau a phob dim arall dan haul. Mae’n dod i’r amlwg pwy sy’n gwrando ar bwy ar bodlediad Colli’r Plot. Diffyg hyder neu golli hyder wrth sgwennu yw pwnc y bennod yma, ond […]

Sesiwn Llanerch Eisteddfod 2019

Sesiwn wedi ei drefnu gan meddwl.org yn trafod perfformio a iechyd meddwl yn Eisteddfod 2019. Yn siarad mae Gruff Jones, Non Parry a Sophie Ann.

Abswrdiaeth: Dyfodol Rhyfedd Cerddoriaeth Cymraeg

Mae Izak Zialic, awdur newydd i SaS, yn hoff iawn o’r arbrofi sydd wedi bod yn mynd ymlaen mewn cerddoriaeth Gymraeg yn ddiweddar-ac yn credu bod angen mwy o hyn. Dyma’r artistiaid sydd yn gwthio pethau yn eu blaenau ym marn Izak…

Enillwyr Gwobrau Sôn am Sîn 2019

Dyma chi enillwyr Gwobrau SaS 2019! Dydyn nhw’n golygu dim byd-mae Chris a Geth yn dewis eu hoff bethau nhw o’r flwyddyn a fu. Dim nhw yw’r awdurdod, felly os ydych chi’n anghytuno, rhowch sylw ar y fideo neu ar y dudalen yma, achos cofiwch- Ma’ pob dydd yn angladd i’r petha’ heb eu nodi, a’r pethau ‘sa chdi wedi gallu deud os sa chdi ffansi.

Cerdded Rhaff

Cerdd a gyfansoddwyd yn rhan o #Her100Cerdd 2017 ar gais meddwl.org.
Bardd: Iestyn Tyne

Podlediad Sôn am Sîn

Chris, Geth a’u ffrindiau sydd, yn llythrennol, yn Sôn am Sîn! Mae’r sianel yn gartref i gyfresi a rhaglenni amrywiol sydd yn trafod pob elfen o’r Sîn Roc Gymraeg a’i chyrion.

Pennod 57 – Tri Aderyn a Dau Fyd: Morgan Llwyd rhan 2

A Richard Wyn Jones bellach ymysg ffans Morgan Llwyd ers y bennod ddiwethaf, dyma gyfle i drafod campwaith y cyfrinydd o awdur, ‘Llyfr y Tri Aderyn.’ Eglurwn yn gyntaf nad dyna yw teitl go iawn y llyfr hwn, a bod Morgan Llwyd ei hun wedi’i ddisgrifio fel ‘dirgelwch i rai i’w ddeall ac i eraill […]

Pennod 55 – Barddoniaeth y Brenhinwyr

Edrychwn yn y bennod hon ar ddetholiad o gerddi a gyfansoddwyd gan frenhinwyr yn ystod ‘rhyfeloedd cartref’ yr ail ganrif ar bymtheg. Gwelwn fod beirdd wedi addasu hen ddulliau a themâu er mwyn trafod datblygiadau cyfoes a oedd yn ysgwyd eu byd nhw. Yn ddiddorol ddigon, mae’n bosibl awgrymu bod ceidwadaeth wleidyddol a chrefyddol wedi […]

CWYR Issue 1 DE-VICES

Gyflwyno CWYR rhifyn 1: DE-VICES sy’n cynnwys gwaith gan naw artist cwiar, mae’r rhifyn hwn yn ceisio darparu archwiliad i’r ffordd y mae folx cwiar yn rhyngweithio â thechnolegau digidol, yn eu defnyddio ac yn eu gwrthsefyll.

RHIFYN 2 LANSIO CYFLAWNIAD

Mynnwch eich dyddiadur allan oherwydd rydym yn lansio ail rifyn CWYR ar ddydd Gwener 13eg o Ragfyr! Ymunwch â ni o 6:30pm yn Rare Mags i fwynhau ein rhifyn diweddaraf, yn ffres oddi ar y wasg (bach).

Y Sioe Frenhinol

Y Sioe Frenhinol a llyfrau’r flwyddyn. Hanes Bethan yn beicio yn Ne Affrica a chawn glywed am HRH Manon yn dal i fyny a’i ffrindiau newydd Cam a Brigitte Macron. Mae’r 5 ohonnom yn datgelu’n hoff lyfrau o 2024.

Martin Jones

3.00pm Rhagfyr / December 29th Dydd Sul / Sunday Mynediad am ddim / Free entry 18+

Pennod 54 – ‘Y ddaear a grynodd’: cyflwyniad i lenyddiaeth Gymraeg y ‘Rhyfeloedd Cartref’

Mae llawer o lenyddiaeth Gymraeg wedi goroesi sy’n gysylltiedig â’r ‘Rhyfeloedd Cartref’ rhwng y Senedd a’r Brenin Charles I.

Nodwn yn y bennod hon fod awdur Cymraeg enwocaf y cyfnod, Morgan Llwyd, yn Biwritan a gefnogai’r Senedd, gan ddyfynnu cerdd ganddo sy’n disgrifio’r rhyfela fel daeargryn yn ysgwyd ei fyd. Eto, roedd y rhan fwyaf o Gymry’r ail ganrif ar bymtheg ar ochr y brenin, a thrafodwn y modd y dioddefodd un bardd Cymraeg oherwydd ei ymlyniad gwleidyddol a chrefyddol. Ond er bod llawer o destunau Cymraeg sy’n tystio i ymwneud y Cymry â’r gwrthdaro a’r trais, edrychwn hefyd ar enghraifft sy’n ein hatgoffa nad ar chwarae bach y mae cymryd llenyddiaeth fel ffynhonnell hanesyddol ddibynadwy.

The Gentle Good – Tachwedd

Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’, albwm newydd The Gentle Good (Gareth Bonello). Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria. Mae ‘Elan’ yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn anghysbell hwn, a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i Firmingham ar ddiwedd oes Fictoria. Mae’r sengl gyntaf o’r albwm, ‘Tachwedd’ yn ddathliad seicedelig calonogol o’r hydref ac yn ein hatgoffa i ddal y golau drwy’r tywyllwch.

GWOBRAU COFFA AIL SYMUDIAD

Cystadleuaeth i fandiau ac artistiaid unigol dros Gymru gyfan

Pwy sy’n gallu cystadlu?
Unrhyw fand neu artist sy’n gymharol newydd. Ydych chi’n fand ysgol? Yn ffrindiau coleg? Yn artist unigol sydd eisiau cyrraedd cynulleidfa? Hoffech chi berfformio mewn tair gŵyl yn 2025 ac ennill gwobr ariannol? Ai chi fydd yr enw nesaf ar un o’r tlysau? Profiadol neu hollol ddi-brofiad, mae’r gystadleuaeth yn agored i chi. Mae Gwobrau Coffa Ail Symudiad yn chwilio am sŵn cyfredol a sŵn i’r dyfodol. 

I gofrestru, llenwch y ffurflen yma

Llyfrau’r Gaeaf

Chwilio am anrhegion Nadolig?

Mae Llyfrau’r Gaeaf, blas o’r llyfrau gwych o Gymru fydd ar gael dros y misoedd nesaf, ar gael nawr.
Galwch draw i’ch siop lyfrau leol i dderbyn eich copi yn rhad ac am ddim neu porwch y catalog yma!

GAFF – Chefchaouen

O’r albym ‘Escapism’ – allan Rhag 6 ar Recordiau Côsh Records.

Cerddoriaeth gan GAFF.

Fideo gan Nic Finch.

Argyfwng Y Byd Llyfrau

Croeso i bennod arall o Colli’r Plot.

Yn y rhifyn yma da ni’n trafod yr argyfwng yn y diwydiant cyhoeddi Cymraeg, pa mor hyfryd ydy Cymdeithas Gymraeg y Bermo a thrafod yr yrfa ddisglair sydd o flaen yr awdur Kate Roberts, sydd wirioneddol yn anhygoel.

Mae ‘na lot o chwerthin, ‘chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.


Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Lwmp – Rhian Wyn Griffiths
Meirw Byw – Rolant Tomos
Laura Jones – Kate Roberts
Lladron y Dyfnfor – Gruffudd Roberts
Meirw Byw – Rolant Tomos
Gwaddol – Rhian Cadwaladr
Letting Go – Wil Gritten
Friends of Dorothy – Sandi Toksvig
Nala’s World: One man, his rescue cat and a bike ride around the globe – Dean Nicholson
Tadwlad – Ioan Kidd
The Power of one – Bryce Courtenay
Disgyblion B – Rhiannon Lloyd
Elin a’r Felin – Richard Holt

Pennod 53 – Pechod yn Llanymddyfri: Y Ficer Prichard

Trafodwn yn y bennod hon y modd yr aeth Rhys Prichard (c.1579-1644), ficer Llanymddyfri, ati i ddefnyddio barddoniaeth rydd seml i ledaenu gwersi crefyddol.

Yn ogystal ag ystyried ei agenda gyffredinol, craffwn ar un gerdd sy’n dangos ei fod yn poeni’n fawr am y bywyd pechadurus a welai yn ei blwyf ei hun ac sy’n darlunio Llanymddyfri fel rhyw Sodom a Gamora. Dim ond ar ôl iddo farw y cyhoeddwyd ei waith, a hynny yng nghasgliad Cannwyll y Cymry. Byddai’r gwaith yn cael ei adargraffu’n gyson, gan sicrhau bod ‘y Ficer Prichard’ ymysg beirdd Cymraeg mwyaf adnabyddus y cyfnod cyn 1800. Ond i’n tyb ni, y peth mwyaf diddorol am y bardd hwn yw’r modd y cafodd Rhys Prichard ei wneud yn rhan o olyniaeth lenyddol y Piwritaniaid Cymraeg; o edrych o’r newydd am y dystiolaeth am fywyd a’i ddaliadau’i hun, casglwn ei fod ar y pegwn arall i’r Piwritaniaid a ymladdai yn erbyn y brenin mewn gwirionedd. Dyma felly enghraifft drawiadol o lenyddiaeth wedi’i chymryd allan o’i chyd-destun gwreiddiol a’i defnyddio at ddibenion hollol wahanol.

Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2024

I ddathlu a chydnabod cyfraniad darlunwyr a dylunwyr a’u gwaith i ddod â straeon yn fyw, mae Panel Pobl Ifanc Cyngor Llyfrau Cymru wedi dewis 8 clawr llyfr o Gymru sydd yn eu barn nhw yn haeddu’r teitl Clawr Llyfr Plant y Flwyddyn 2024.

Bydd dylunydd/darlunydd y cloriau buddugol yn y ddau gategori yn ennill neu’n rhannu gwobr ariannol o £500.

Speak Back

Mae ’Speak Back’ yn gwrs preswyl 5 diwrnod ar gyfer beirdd ac artistiaid perfformiadol. Ar gyfer y cyfle hwn, rydym yn croesawu ceisiadau gan feirdd ac artistiaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru, ac mae’r cwrs yn rhad ac am ddim i’r awduron llwyddiannus.

Dyddiadau’r Cwrs: Dydd Llun 3 Mawrth – Dydd Gwener 7 Mawrth 2025.

Dyddiad cau: Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024.

Bydd yr wythnos yn archwilio themâu hunaniaeth, argyfwng hinsawdd, cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol. Y tiwtoriaid yw Taylor Edmonds a Kandace Siobhan Walker.

Mae ‘Speak Back’ yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, Ymddiriedolaeth Rhys Davies a Sefydliad Foyle.

Sut i wneud cais – https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/speak-back/speak-back-sut-i-wneud-cais/

Cymhwysedd a Chwestiynau cyffredin – https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/speak-back/speak-back-cymhwysedd-a-chwestiynau-cyffredin/

Pennod 52 – ‘Cyfaill ac Anwylddyn’: Beibl Bach 1630

Er mwyn deall datblygiad llenyddiaeth Gymraeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, rhaid trafod y Beibl eto. Yn dilyn cyhoeddi Beibl William Morgan yn 1588, cyhoeddwyd fersiwn diwygiedig yn 1620.

‘Beiblau pulpud’ oedd y cyfrolau hyn, llyfrau mawr a ddefnyddid yn yr eglwys ond a oedd yn rhy ddrud i’r rhan fwyaf o’r Cymry eu prynu. Ond cyhoeddwyd un tra gwahanol yn 1630, y ‘Beibl Bach’, un a oedd dipyn yn llai o ran maint ac felly’n rhatach. Wrth drafod ei arwyddocâd yn y bennod hon, craffwn ar ragymadrodd y Beibl Bach, ysgrif hynod ddiddorol sy’n annog y darllenydd i adael i’r beibl hwn fyw yn tŷ ag ef ‘fel cyfaill’ ac ‘fel anwylddyn.’ O safbwynt hanes crefydd yng Nghymru, dyma garreg filltir a fyddai’n hybu Piwritaniaeth yn y pen-draw. Ac o safbwynt hanes llenyddiaeth Gymraeg, byddai’r cyhoeddiad hwn yn hybu llythrennedd yn sylweddol.

RHYDD – BETSAN

Mae Recordiau Côsh yn falch o gyhoeddi bod y cerddor a’r cyfansoddwr, Betsan, yn ymuno â’r label ar ddechrau ei phennod greadigol newydd fel artist.

Allan nawr ar yr holl lwyfannau arferol, ‘Rhydd’ yw’r cyntaf mewn cyfres o senglau fydd Betsan yn ei ryddhau dros y misoedd nesaf. Dyma fideo arbennig, wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos Lŵp a PYST, i gyd-fynd â’r trac.

Bendigaydfran – Y Goron Fawr

‘Mae’n freuddwyd i mi bod fi’n hunlle i ti’

Dyma fideo a pherfformiad trawiadol gan yr artist electro-pop o Gaerdydd i gyd-fynd â’i sengl diweddaraf – ‘Y Goron Fawr’.

Mae Bendigaydfran yn chwarae rhan cymeriad hunllefus gyda’r elfennau gweledol grymus yn creu fideo effeithiol a phriodol!

Fideo gan: Pink Chillies

Pennod 51 – ‘Hoff Rediad ei Phriodi’: Cyngor Mam a Galar Gŵr

Ar ôl nodi bod llwyth o ganu caeth Cymraeg o’r cyfnod ac enwi rhai o feirdd pwysig nad oes gennym amser i’w trafod, canolbwyntiwn ar ddwy gerdd gaeth o ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg sy’n cynnig mewnwelediad i fywyd un teulu uchelwrol – Dafydd Llwyd a’i wraig Catrin Owen o’r Henblas, Llangristiolus, Môn.

Edrychwn yn gyntaf ar gywydd a gyfansoddwyd Dafydd pan fu farw Catrin yn 1602, cerdd sy’n mynegi galar y gŵr mewn modd personol a chofiadwy. Trafodwn wedyn gyfres o englynion a gyfansoddasai Catrin pan aeth eu mab nhw, Siôn i astudio yn Rhydychen. Mae’r gerdd hon yn cyflwyno cyngor y fam i’w mab, ac mae naws y cyngor yn rhyfeddol o debyg i’r hyn y gellid disgwyl i rieni ddweud wrth eu plant heddiw!

Ar ganol ei gwrs gradd yn Rhydychen oedd Siôn pan fu farw’i fam, ac felly mae’r ddwy gerdd gyda’i gilydd yn gyfle i ni weld y tu mewn i fywyd – a marwolaeth – y teulu hwn ac ystyried y modd yr oedd barddoniaeth yn gyfrwng iddynt fynegi’u teimladau.

Her yr Hydref: Aduniad – Elidir Jones

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.

Dwi Ar Gau – Lleucu Non (Official Video)

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Lleucu Non – Dwi Ar Gau

Wedi i senglau cyntaf Cyn Cwsg, BERIAN a Ffion Campbell-Davies greu argraff ar ddechrau’r flwyddyn, pleser cyhoeddi mai Lleucu Non yw’r pedwerydd artist i ryddhau drwy UNTRO, gyda’i thrac cyntaf, ‘Dwi Ar Gau’, allan ddydd Gwener 11eg Hydref.

Mae ‘Dwi Ar Gau’ yn drac sy’n efelychu natur gymhleth perthynas bell, wrth i Lleucu samplo sgyrsiau coll o ebargofiant peiriant ateb ei ffôn. Yn llithro rhwng yr amrwd a’r breuddwydiol, mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan y cerddor, Sywel Nyw, a’n cyfuno curiadau cynnil gyda melodïau moethus Lleucu. Yn rhan o gydweithrediad rhwng Klust a Youth Music, daeth y ddau artist ynghyd i recordio’r trac yng ngholeg LCCM yn Llundain fis Gorffennaf.

Gydag artistiaid fel Thallo, Mazzy Star a Cate le Bon ymhlith ei dylanwadau, mae ‘Dwi Ar Gau’ yn dod â syniadau seinyddol Lleucu yn fyw, wedi iddi hel samplau a chasglu synau dros gyfnod o bedair blynedd. Eglura Lleucu: “Dechreuais ‘sgwennu caneuon tua phedair blynedd yn ôl wrth ddechrau ymarfer y gitâr yn ystod y cyfnod clo. Mae’n gyffrous iawn gallu rhyddhau fy sengl gyntaf o’r diwedd!”

Wedi’i magu yn Nyffryn Nantlle a bellach yn byw yn Gaerdydd, ychwanega Lleucu: “Roedd recordio yn Llundain a chydweithio hefo Sywel Nyw yn brofiad arbennig iawn a dwi’n falch o allu cael y cyfle i weithio gyda chynhyrchydd mor dalentog. Mae cyd-destun lyrics ‘Dwi Ar Gau’ yn agored i’w ddehongli, ond i mi, mae o’n cyfleu’r angst mae llawer o bobl yn ei deimlo ar ôl graddio, ymhlith syniadau eraill! Dwi’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r trac.”

Dwi Ar Gau – Lleucu Non

Fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer ‘Dwi Ar Gau’. Cyfuniad o animeiddio a ffilm gan Lleucu Non, gan gynnwys ffilmiau o archif personol Sion Roberts

Rhan o Gronfa Fideos Lŵp x PYST

Yr amser gorau i ddarllen llyfr

Llongyfarchiadau Bethan Gwanas ar ennill Gwobr Mary Vaughan Jones 2024, sydd yn dathlu cyfraniad arbennig at lenyddiaeth i blant a phobl ifanc.

Trafod darllen llyfrau ar yr amser cywir, beth mae tylluanod yn ei wybod, cerddoriaeth a chyfrolau, a lansiad llyfr sy’n cynnwys stripper.

Mae hwn i fod yn bodlediad am lyfrau!

Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau a drafodwyd yn y bennod:

Y Daith ydi Adra – John Sam Jones (cyfieithad Sian Northey)
Tell Me Who I Am – Georgia Ruth
Pen-blwydd Hapus – Ffion Emlyn
Dog Days – Ericka Walker
Y Morfarch Arian – Eurgain Haf
Lwmp – Rhian Wyn Griffiths
Y Fran Glocwaith – Catherine Fisher (cyf. Mared Llwyd)
Nightshade Mother – Gwyneth Lewis 
Ystorïau Bohemia – amrywiol, cyf. T H Parry-Williams
Pen-blwydd Hapus – Ffion Emlyn
Clear – Carys Davies
Tywyllwch y Fflamau – Alun Davies
Y Twrch Trwyth – Alun Davies
Gwaddol – Rhian Cadwaladr.
Oedolyn-ish – Mel Owen
The Rhys Davies Short Story Award Anthology

Her yr Hydref: Gwledd gan Lowri Haf Cooke

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.

Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau gan awduron poblogaidd yn cynnig cyfle gwych i bori mewn llyfr. Gyda’r llyfrau yn ddim ond £1 yr un, ac yn rhyw 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned.

Mae Gwledd gan Lowri Haf Cooke yn dathlu 10 cwmni bwyd a diod o Gymru.

Dyma straeon rhai o arwyr ac arwresau’r byd bwyd a diod yng Nghymru heddiw. Dewch i gael eich ysbrydoli gan fusnesau sydd wedi ennyn parch ledled Cymru a thu hwnt, ac sydd wedi cipio gwobrau cenedlaethol.

Mae gwledd yn eich disgwyl, wrth i chi ddysgu am yr emosiwn, y gwaith caled a’r dyfalbarhad sydd wedi dod a llwyddiant i’r cynhyrchwyr arloesol, angerddol ac arbennig yma.

Pennod 50 – Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair

A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn.

Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth.

Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy!

Her yr Hydref: Tywyllwch y Fflamau gan Alun Davies

Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!

Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.