Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 76 – Angharad James

Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched. Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd […]

Raaarrr

Dyma bennod sy’n rhuo mewn i’ch clustiau. Mae Bethan Byth Di Bod i Japan, Manon mor ysgafn â phluen ar ôl enwebiad Carnegie, ac mae ‘na lot o chwerthin, chydig o bethau dadleuol ac ambell i sgwrs ddwys.   Mae ‘na fwy o olygu yn y bennod hon na phennod o Panorama.   Dyma restr […]

Pennod 74 – Hiraeth am Fôn: Goronwy Owen

Caiff Richard Wyn Jones ragor o hanes llenyddol ei fro enedigol yn y bennod hon wrth i ni drafod Goronwy Owen, bardd enwocaf Ynys Môn. Awgrymwn fod delfrydau llenyddol cylch y Morrisiaid i’w gweld ar eu mwyaf eglur ym marddoniaeth ‘Goronwy Ddu’, gan fod ei feistrolaeth ar y mesurau caeth wedi gwireddu i raddaeth health […]

Arolwg Grŵp Gweithredu Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Mynediad a Chynhwysiant DAC

Archwilio sut mae cynhwysiant yn edrych ac yn teimlo i artistiaid anabl o gefndiroedd lleiafrifol, deall rhwystrau presennol, a chyd-greu syniadau i adeiladu amgylcheddau celfyddydol mwy hygyrch. Rhannwch eich barn ar ein harolwg erbyn 07/11/25 yma Bydd y Grŵp Gweithredu yn digwydd ar Zoom ar 19/11/25. Cofrestrwch eich diddordeb yma

Pennod 73 – Morrisiaid Môn

Ac yntau’n hogyn o sir Fôn, mae Richard Wyn Jones yn ebychu ar ddechrau’r bennod hon na chlywodd ‘un sill’ am y brodyr llengar hyn o’r Ynys pan oedd yn yr ysgol. Dyma gyfle felly i unioni’r cam wrth i ni drafod y pedwar brawd o Bentrerianell, Llanfihangel Tre’r Beirdd. Yn ogystal â Lewis, Richard, […]

Pennod 72 – Y Ffŵl a’r Pregethwr: Yr Anterliwt (rhan 4)

Yn bell o fod yn unffurf, roedd llenyddiaeth Gymraeg y ddeunawfed ganrif yn faes ymrafael. Rydym ni’n archwilio’r canfyddiad hwnnw yn y bennod hon wrth gloi ein trafodaeth estynedig ar yr anterliwt a’i chyd-destun(au). A ninnau wedi ystyried ymosodiadau’r diwygwyr crefyddol ar y diwylliant traddodiadol hwn mewn pennod gynharach, dyma gyfle i weld yr anterliwtwyr […]

Pennod 71 – Ffŵl heb Ffiniau: Yr Anterliwt (rhan 3)

Cewch gyfle yn y bennod hon i gyfarfod â Gwagsaw, Syr Caswir, Ffowcyn Gnuchlyd a rhai o ffyliaid eraill yr anterliwtiau. Wrth graffu ar rôl y ffŵl, nodwn fod ganddo nifer o swyddogaethau mewn anterliwt draddodiadol. Yn gyntaf, mae’n agor y chwarae â’i gastiau doniol a’i eiriau dychanol er mwyn ceisio denu cynulleidfa. Awn ati’n […]

Sgwennu 5 Mil O Eiriau Y Diwrnod

Mae un o’r criw wedi bod yn brysur yn sgwennu 5 mil o eiriau y diwrnod, tra bod y gweddill wedi bod wrthi’n darllen llwyth o lyfrau, gydag ambell lyfr o Siapan.   Lot o chwerthin, ‘chydig o bethau dadleuol, ambell i sgwrs ddwys, a thipyn o olygu i gadw Aled yn brysur!   Dyma […]

Pennod 70 – ‘Dynion dawnus yn dilyn chw’ryddiaeth’: Yr Anterliwt (rhan 2)

Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth.   Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu perfformiadau mewn nifer […]

Pennod 69 – Maswedd a Moeswers: Yr Anterliwt ( rhan 1)

Dyma’r gyntaf mewn cyfres o benodau sy’n archwilio gwahanol agweddau ar draddodiad yr anterliwt. Mae Jerry Hunter newydd orffen ysgrifennu llyfr am y pwnc ac “yn llosgi am y stwff `ma”, chwedl ei gyd-gyflwynydd, ac erbyn diwedd y bennod hon mae Richard Wyn Jones yntau’n “ysgwyd ei gynffon” gyda chyffro. Awn ati i ddiffinio’r anterliwt […]

Pennod 68 – Baledi’r Ddeunawfed Ganrif

Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif. Ar ôl ymgodymu ychydig â’r diffiniad, awgrymwn mai’r cysylltiad rhwng y math hwn […]

Maes D – Eisteddfod Wrecsam 2025

Sesiwn arbennig yn fyw o Maes D ar faes Eisteddfod Wrecsam 2025. Trafod llyfrau i ddysgwyr, sgwennu ar gyfer dysgwyr a phob dim dan haul.

Frances Bolley

Frances Abigail Bolley sits on a seaside cliff holding a guitar

Ein Hartist y Mis yw Frances Bolley! Yn Gerddor a Pherfformiwr Aml-Offerynnol, mae gan Frances amrywiaeth anhygoel o waith o’i hymarfer unigol, i chwarae’r bas i Adjua a’r brif gitâr i Fenix, i gyfansoddi, cynhyrchu cerddoriaeth, celfyddydau cymunedol, a hyd yn oed yn fwy.  Yn ddiweddar rhyddhaodd Frances ‘i siarad’, cân yn y Gymraeg a […]

Gŵyl Arall

Pennod yn fyw o Gŵyl Arall Caernarfon. Ymddiheuriadau am ansawdd y sain yn y bennod hon.

Pennod 65 – ‘Pererin Wyf’: Williams Pantycelyn (rhan 2)

Ymdreiddiwn ychydig yn ddyfnach i emynau Pantycelyn yn y bennod hon, gan ganolbwyntio ar un thema. Ar ôl trafod yr emyn poblogaidd sy’n dechrau ‘Pererin wyf mewn anial dir’, nodwn nad dyna oedd yr unig dro na’r tro cyntaf i Williams ddechrau cyfansoddiad gyda’r ddau air hyn. Ar ôl dangos y modd y bu iddo […]

Pennod 64 – ‘Williams biau’r Emyn’

Yn y bennod hon, dechreuwn drafod prifardd y mudiad Methodistaidd Cymraeg, William Williams, Pantycelyn (1717-1791). Er ein bod ni’n crybwyll ychydig o hanes ei fywyd (gan gynnwys ei dröedigaeth), oedwn i bwysleisio arwyddocâd ei waith llenyddol a chydsynio â’r rhai sy’n gweld emynau cynnar Pantycelyn fel dechrau pennod newydd yn hanes barddoniaeth Gymraeg.   Dyma […]

Awduron di-dâl

Mae Siân mewn penbleth ac mae’n gofyn am gymorth gan y pedwar… sydd yn fawr o help! Pryd mae’n iawn i ofyn am daliad a pham fod gymaint o ddigwyddiadau yn disgwyl i awduron cynnal noson yn ddi-dâl? Iaith ddiniwed Bethan, ymwelydd o ben draw’r byd, a llwyth o lyfrau. Dyma restr ddarllen o’r cyfrolau […]

Sesiwn Gŵyl Tawe – HMS Morris

Mae Menter Iaith Abertawe yn lansio cyfres o sesiynau byw ar gyfer Gŵyl Tawe, sy’n cynnwys artistiaid o’r ŵyl mewn lleoliadau amrywiol ar draws Abertawe.   Sesiwn 2 – HMS Morris o Kardomah Cyfarwyddo, Saethu a Golygu – Trigger Happy Creative Sain – HMS Morris

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Branwen ferch Llŷr

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Llyfr Gwyn Rhydderch

Mae’r bennod nesaf yn canolbwyntio ar y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’ (neu ‘Ail Gainc y Mabinogi’). Rydym ni’n paratoi ar gyfer y drafodaeth honno yn y bennod hon trwy edrych ar y llawysgrif gynharaf sy’n cynnwys copi cyflawn o’r chwedl, sef Llyfr Gwyn Rhydderch. Crëwyd y llawysgrif hon tua’r flwyddyn 1350 gan nifer o fynaich […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Mis Mai a Mis Tachwedd

‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Yr Wylan

Edrychwn yn y bennod hon ar un o gywyddau llatai Dafydd ap Gwilym gan egluro ystyr y gair hwnnw – ‘llatai’ – a thrafod patrwm arferol cywyddau o’r fath. Dyma fath o gerdd sy’n cyfuno dwy hoff thema Dafydd, cariad a natur, gan roi rhwydd hynt i ddychymyg bardd wrth iddo bersonoli’r wylan a’i gwenieithu. […]

Gwaith Argoed Llwyfain

Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd […]

Marwnad Owain ab Urien

Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau […]

Canu Aneirin, Awdl 1

Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, […]

Llyfr Aneirin

Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad […]

Canu Aneirin, Awdl 24

Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr […]

Sesiwn Gŵyl Tawe – Mali Hâf

Mae Menter Iaith Abertawe yn lansio cyfres o sesiynau byw ar gyfer Gŵyl Tawe, sy’n cynnwys artistiaid o’r ŵyl mewn lleoliadau amrywiol ar draws Abertawe.   Sesiwn 2 – Mali Hâf o Arena Abertawe

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Aneirin gan Iwan Llwyd

Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd

Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth […]

Yr Hen Iaith (Lefel A): Y Gŵr sydd ar y Gorwel gan Gerallt Lloyd Owen

Canolbwyntia’r bennod hon ar gywydd Gerallt Lloyd Owen, ‘Y Gŵr sydd ar y Gorwel’. Yn ogystal â chraffu ar grefft y bardd, rydym ni’n egluro’r cyd-destun gwleidyddol ac ystyried pam yr aeth Gerallt Lloyd Owen ati i drafod Saunders Lewis yn y modd hwn. Nodwn arwyddocâd y gair ‘gorwel’ ei hun ac awgrymwn fod y […]

Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn

Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro […]

Yr Hen Iaith (Lefel A): Podlediad ar gyfer Disgyblion Lefel A Cymraeg

Dyma gyfres arbennig o’r podlediad poblogaidd, Yr Hen Iaith – un sydd wedi’i chreu ar gyfer pobl sy’n astudio Cymraeg Lefel A. Mae pob pennod yn y gyfres yn ymwneud ag agwedd ar y maes llafur. Cewch wrando ar ddau hen ffrind yn trafod llenyddiaeth Gymraeg, y naill yn arbenigwr yn y maes a’r llall […]

Yr Hen Iaith (Lefel A): Un Nos Ola Leuad

Trafodwn Un Nos Ola Leuad yn y bennod hon. A ninnau yn ffilmio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cewch weld llyfr nodiadau Caradog Prichard ei hun gydag un o’i gynlluniau gwreiddiol ar gyfer y nofel a drafft o bennod. Rydym ni’n ystyried arddull y gwaith rhyfeddol hwn a’r modd y mae’n symud rhwng cywair tafodieithol a […]

Yr Hen Iaith (Lefel A) – Martha, Jac, a Sianco

Trafodwn Martha, Jac a Sianco yn y bennod hon, gan graffu ar y modd y mae’r nofel yn darlunio ochr dywyll bywyd gwledig.   Dadleuwn fod hyd yn oed yr agweddau mwyaf ysgytwol ar y nofel yn adlewyrchu realiti a bod y gwaith dewr hwn yn mynd yn groes i ffrwd o lenyddiaeth Gymraeg sy’n […]

Hynt Yr Hen Iaith: neges ar gyfer ein dilynwyr

Fel y gwyddoch os ydych chi wedi bod yn dilyn Yr Hen Iaith, y bennod ddiwethaf oedd pennod olaf Cyfres 2. Bydd ychydig o seibiant cyn i ni ddechrau Cyfres 3, ond ni fydd tîm Yr Hen Iaith yn segur! Yn wir, rydym ni wedi dechrau recordio cyfres arbennig ar gyfer disgyblion lefel A. Mae’r […]

Pennod 62 – Hanesyddiaeth a Hunaniaeth: Drych y Prif Oesoedd

Gyda’r bennod hon rydym yn dirwyn ail gyfres Yr Hen Iaith i ben, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy drafod llyfr hynod ddylanwadol a gyhoeddwyd gan Theophilus Evans yn y flwyddyn 1740. Cyhoeddwyd Drych y Prif Oesoedd gyntaf yn 1716 ond aeth yr awdur ati i ehangu’r gwaith yn sylweddol a’i ailgyhoeddi 24 o flynyddoedd […]

Pennod 61 – Taliesin yng Ngwlad Angau: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 2)

Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg […]

Cerdd Tafod Arall | Music of Another Tongue

Mae Cerdd Tafod Arall | Music of Another Tongue yn brosiect a arweinir gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru. Fe heriodd ei hun a chwe bardd sy’n adnabyddus am eu defnydd arbrofol o iaith i ddysgu am y gynghanedd a’i defnyddio yn un o’u cerddi. Yn dilyn fflachwers ar y gynghanedd dan arweiniad Mererid Hopwood […]

Syched Cas – Dewin

Fideo i sengl Dewin ‘Syched Cas’ Cyfarwyddo a golygu gan Lleucu Elisa. Ariannwyd gan gronfa fideos PYST x Lŵp © Fflach Cymunedol 2025

Sesiwn Gŵyl Tawe – Los Blancos

Mae Menter Iaith Abertawe yn lansio cyfres o sesiynau byw ar gyfer Gŵyl Tawe, sy’n cynnwys artistiaid o’r ŵyl mewn lleoliadau amrywiol ar draws Abertawe. Sesiwn 1 – Los Blancos o’r Swansea Grand Theatre Cyfarwyddo a Golygu – Owain Jones Camera a Grade – Aled Victor VHS – Sam Stevens (sam.ffoto) Sain – Graham Morse